Mater - cyfarfodydd

Town Centre Regeneration – property intervention

Cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet (eitem 122)

122 Adfywio Canol Trefi - Ymyrraeth Eiddo pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ystyried y rol y gallai’r Cyngor ei chwarae wrth helpu trefi I addasu I sefyllfa economaidd sy’n newid trwy ymyrraeth uniongyrchol wrth gaffael, ailddatblygu neu reoli eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro bod canol trefi yn wynebu heriau economaidd cynyddol a bod y patrymau presennol o berchnogaeth eiddo yn rhwystro ymdrechion i'w helpu nhw i addasu.

 

            Roedd yr adroddiad yn gweithredu fel cam cyntaf y broses o ddatblygu rhaglen uchelgeisiol ond cyflawnadwy o ymyraethau er mwyn cefnogi ailddyfeisio ac adfywio canol trefi yn Sir y Fflint.

 

            Bwriad y rhaglen oedd:

 

·         Lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor yng nghanol trefi;

·         Lleihau'r nifer cyffredinol o ddarpariaethau manwerthu yng nghanol trefi drwy addasu unedau ar gyrion trefi at ddibenion gwahanol;

·         Dod o hyd i ddefnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer unedau manwerthu a chynyddu nifer y mentrau cymunedol ar y Stryd Fawr;

·         Cynllun i addasu a gwneud defnydd gwahanol o ganolfannau siopa llai hyfyw;

·         Datblygu unedau cychwyn ar gyfer mentrau manwerthu newydd yng nghanol trefi;

·         Annog buddsoddiad sector preifat mewn eiddo yng nghanol trefi; a

·         Cydlynu a chefnogi ymyraethau portffolio eraill Cyngor Sir y Fflint er mwyn gwneud y mwyaf o’r effeithiau adfywiol a ddaw o fuddsoddiad ac adnoddau.

 

Yn yr adroddiad amlinellwyd manylion y prosiectau o fewn y rhaglen a’r hyn y byddent yn eu cynnwys.  Hefyd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad roedd manylion y camau nesaf a oedd wedi’u nodi.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y rhanbarth ar fin newid o’r camau ymateb i camau adfer oherwydd y sefyllfa gadarnhaol yr oedd ynddi o ran rheoli'r pandemig.  Un o’r chwe thema ar gyfer adfer oedd adfywio canol trefi, a byddai tystiolaeth yn cael ei ddarparu i'r llywodraeth wrth wneud cais am gyllid.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod gan yr awdurdod lleol y p?er i ymyrryd ag eiddo gwag, gyda chymorth pecyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru (LlC) sy’n amlinellu pwerau gorfodi gyda rhai o’r enghreifftiau gwaethaf o eiddo sydd ddim yn cael eu cynnal, er mwyn dod â hwy yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned leol a chanol trefi.

 

Siaradodd y Cynghorydd Thomas yngl?n â mentrau cadarnhaol a fyddai’n helpu canol trefi, gan gyfeirio at y caffi trwsio ym Mwcle a siopau dros dro fel enghreifftiau.  Eglurodd y Prif Swyddog bod y cynllun hwn yn cymryd y camau hynny un cam ymhellach, gan gymryd eiddo a’i ddefnyddio i bwrpas gwahanol.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mullin, eglurodd y Prif Swyddog y byddai gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Rheolwyr Canol Trefi a Chynghorau Tref.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bwysigrwydd ystyried pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol,  anawsterau iechyd meddwl a dementia, yn y broses.  Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad ar gyfer canol trefi penodol yn cael ei lunio ac y byddai’n sicrhau y caiff y pwyntiau hyn eu cynnwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cytuno ar rôl y Cyngor wrth adfywio canol trefi drwy ymyraethau sy’n canolbwyntio ar eiddo.