Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 11)

Cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet (eitem 120)

120 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 11) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa monitro refeniw manwl ddiweddaraf Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar wir incwm a gwariant fel yr oedd hyd at Fis 11. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagamcaniad o sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros fwy neu lai yr un fath. Roedd hefyd yn cymryd i ystyriaeth y sefyllfa ddiweddaraf  o ran cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru (LlC) am Gyllid Grant Argyfwng

 

            Y sefyllfa diwedd blwyddyn a ragwelwyd oedd:

 

Cronfa'r Cyngor

·         Roedd gwarged gweithredol o £1.912 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn), yn newid ffafriol o £0.988 miliwn o’r ffigwr gwarged o £0.924 miliwn a adroddwyd ym Mis 10.

·         Roedd y gwarged gweithredol o £1.912 miliwn yn cyfateb i 0.67% o’r Gyllideb a Gymeradwywyd, a oedd ychydig yn fwy na Dangosydd Perfformiad Allweddol targed y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer amrywiant yn erbyn cyllideb o 0.5%.

·         Rhagwelir balans wrth gefn at raid o £5.689 miliwn, ar 31 Mawrth 2021.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y gwelliant yn y sefyllfa wedi dod yn bennaf yn sgil cadarnhau rhagor o gyllid gan Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru am golledion incwm a gafwyd yn y flwyddyn ariannol (£0.665 miliwn).  Yn ogystal, roedd LlC wedi addasu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer grantiau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol (gwasanaethau Oedolion a Phlant) a oedd wedi achosi newid cadarnhaol pellach yn y sefyllfa derfynol (£0.258 miliwn).

 

Roedd rhagamcanion blaenorol yn cynnwys colledion incwm posib gwerth cyfanswm o £0.665 miliwn o fewn portffolios Cynllunio a’r Amgylchedd a Llywodraethu.  Roedd hyn oherwydd y ffaith bod LlC ond wedi cadarnhau cyllid ar gyfer hyd at 50% o’r colledion hynny ar y pryd.  Gan fod cyllid ar gyfer y swm llawn wedi ei gadarnhau erbyn hyn, roedd yr effaith cadarnhaol ar y sefyllfa derfynol rhagamcanol bellach wedi’i adlewyrchu.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.675 miliwn yn llai na’r gyllideb.

·         Rhagwelir mai’r balans wrth gau ar 31 Mawrth fydd £3.684 miliwn 2021.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â’r sefyllfa a ragwelir, y sefyllfa a ragwelir fesul portffolio, newidiadau arwyddocaol ers Mis 9, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i'r amlwg, cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, ceisiadau i gario cyllid ymlaen a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd bod y pandemig, fel gyda phob Cyngor, wedi amharu’n sylweddol ar gasglu Treth y Cyngor.  Ar hyn o bryd, roedd incwm Treth y Cyngor 1% yn llai na’r targed, a oedd y cyfateb i £1.0 miliwn.  Roedd incwm yn adfer yn arafach na’r disgwyl, ond roedd disgwyl iddo wella dros amser gan fod y prosesau adfer bellach wedi ailddechrau yn llawn a’r taliadau y cytunwyd i’w gohirio yn cael eu talu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl gydweithwyr ar draws  ...  view the full Cofnodion text for item 120