Mater - cyfarfodydd

Business Continuity and Cybercrime

Cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 139)

139 Parhad Busnes a Seiberdroseddu pdf icon PDF 94 KB

Rhoi Polisi Parhad Busnes y Gronfa i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran rheoli risg o seiberdroseddu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Latham fod y Gronfa’n ymgymryd â gwaith sylweddol i ddeall sut y gall y Gronfa wrthsefyll seiberdroseddu.Rhoddir mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor maes o law, er y bydd hyn yn si?r o fod yn eitem Rhan 2 am resymau diogelwch. Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at ddisgwyliadau’r Rheoleiddiwr Pensiynau ac y dylai rheolwyr y cynllun ddeall a rheoli peryglon seiberdroseddu’n gywir.

 

            Esboniodd Mr Latham fod y Gronfa hefyd wedi cynllunio ar gyfer parhad busnes yn y gorffennol ac felly mae’n galonogol na chafwyd problemau yn y gorffennol, ond bydd mwy o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod cynlluniau parhad busnes yn parhau i fod yn gyfredol a phriodol.  Fel rhan o hyn, mae Polisi Parhad Busnes wedi cael ei ddatblygu er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

            Nododd y Cynghorydd Bateman mai seiberdroseddu yw un o brif beryglon y Gronfa a chadarnhaodd Mr Latham ei bod yn risg allweddol a’i bod felly’n bwysig cael sicrwydd ynghylch sut y rheolir hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Williams beth mae’r Gronfa’n ei wneud yn weithredol i edrych ar gynllunio ar gyfer olyniaeth.Cadarnhaodd Mrs Williams fod yr eitem hon ar y gofrestr risg a threuliwyd llawer o amser yn ystyried hyn.Mae ystod eang o staff yn y tîm naill ai’n derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd neu eisoes wedi eu hyfforddi i reoli’r maes hwn.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Williams a yw'r Gronfa wedi newid ei strwythur cyflogau gan fod awdurdodau eraill yn talu staff cymwys ar lefel uwch.Cadarnhaodd Mrs Williams nad oedd wedi sylwi bod hyn yn broblem gan fod unrhyw aelod o staff a adawodd y tîm wedi ailymuno ers hynny.

 

            O ran cynllunio ar gyfer olyniaeth, dywedodd Mrs McWilliam fod y Gronfa, fel rhan o’r adolygiad cynllunio ar gyfer olyniaeth, yn cynnal dadansoddiad o'r bylchau, a fydd yn cynnwys ystyried pwy a fyddai’n gwneud y gwaith pe na bai aelod o staff ar gael.  Bydd hyn yn helpu i nodi unrhyw risg gyda pherson allweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cafodd Polisi Parhad Busnes y Gronfa ei adolygu a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.

(b)  Gwnaeth y Pwyllgor sylw ar y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â pharhad busnes a seiberddiogelwch ar gyfer y Gronfa.