Mater - cyfarfodydd

Education & Youth Self Evaluation Report 2020/2021

Cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet (eitem 121)

121 Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 20-21 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I ddarparu manylion adolygiad a gwerthusiad y portffolio o’r gwasanaethau yn ystod 2020-21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan egluro bod y Cyngor wedi cynnal hunanwerthusiad blynyddol o'i wasanaethau addysg.  Fel arfer, caiff ei hysgrifennu yn unol â’r fframwaith ar gyfer arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Estyn, ond wrth bod y fframwaith hwn wedi’i ohirio yn sgil Covid-19, cyflwynwyd yr adroddiad mewn fformat gwahanol gyda phob maes gwasanaeth yn canolbwyntio ar ei waith dros y 12 mis diwethaf a sut yr oedd wedi ymateb ac addasu i'r argyfwng iechyd parhaus. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod pob adran o’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r maes gwasanaeth, sut yr oedd wedi addasu, a’i flaenoriaethau datblygu parhaus a fyddai’n cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor a’r Cynllun Busnes Portffolio ar gyfer 2021/22. Ble bu cynnydd yn bosib yn erbyn argymhellion Estyn yn dilyn arolwg o Wasanaethau Addysg yn Sir y Fflint yn 2019, adlewyrchwyd y rhain ym mhob adroddiad gwasanaeth.

 

            Roedd Estyn wedi parhau i gadw cysylltiad rheolaidd ag ysgolion a swyddogion addysg er bod pob un o'r fframweithiau arolygu ffurfiol ar gyfer ysgolion a gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn parhau i fod wedi’u gohirio.   Comisiynwyd Estyn gan Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o waith awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020. Roedd yr adroddiad adborth yn seiliedig ar gyfarfodydd dros y we gyda Swyddogion Addysg, yr Aelod Cabinet Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a sampl o benaethiaid  ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

 

            Roedd yr adroddiad adborth wedi’i atodi i adroddiad y Cabinet, ac yn amlinellu ymateb cyflym ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o ddechrau’r pandemig.  Cydnabu’r arweiniad cryf gan Dîm Ymateb i Argyfwng y Cyngor, a’r Portffolio Addysg.   Roedd yn tynnu sylw at gryfderau’r dull cydweithredol a rennir ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid allanol, e.e. GwE, er mwyn addasu gwasanaethau mewn modd effeithiol i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol.  Nododd hefyd yr adolygiad trylwyr o ymateb y Cyngor drwy waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

            Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, ac nid oedd yn nodi unrhyw argymhellion ar gyfer gwella ymhellach.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog a’i thîm, a’r Uned Gludiant Integredig, am y gwaith a oedd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wedi iddynt wynebu heriau sylweddol.  Ategodd yr holl Aelodau’r sylwadau hynny, gan hefyd ganmol y staff addysgu a chefnogi a oedd wedi parhau i ddarparu addysg wyneb yn wyneb ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys yr adroddiad hunanwerthuso; a

 

(b)       Nodi'r adroddiad thematig cadarnhaol a gynhaliwyd gan Estyn yngl?n â gwaith y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.