Mater - cyfarfodydd

Update on Welsh Government funding for schools

Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 45)

45 Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y Cyngor i ysgolion pdf icon PDF 109 KB

Amlinellu i'r Pwyllgor y cynnig ar gyfer dosbarthu'r £1m ychwanegol a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i amlinellu i’r Pwyllgor y cynnig i rannu’r £1m ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22.  Oherwydd amseriad a diben y cyllid, bydd y Cyngor yn dyrannu’r cyllid yn 2021/22 fel dyraniad atodol. 

 

            Yn arolygiad Estyn o’r Awdurdod Lleol yn 2019, mynegwyd pryderon am natur hirdymor y diffygion yng nghyllideb rhai ysgolion uwchradd, ac fel rhan o’u hadroddiad arolygu, un o’r prif argymhellion oedd y dylai’r Awdurdod gymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion.  Roedd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gael yn bennaf er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i’r ysgolion hynny sydd â phroblemau ariannol.       

 

Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd datrysiad ariannol ar gael i ymdrin â’r diffygion, ond drwy weithio’n galed i osod cyllideb 2021/22, ynghyd ag edrych ar y cyfleoedd yn setliad Llywodraeth Cymru i ail alinio cyllid ychwanegol i Ysgolion, cafwyd datrysiad i ddarparu cyllid ychwanegol i ysgolion uwchradd.  Wrth esbonio sut y dyrannwyd y cyllid, soniodd am y pryderon a glywodd rhai Penaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion.  Dywedodd fod yr Awdurdod yn cydnabod bod cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly byddai cyfran o’r cyllid yn mynd i’r ysgolion hynny nad oedd wedi cwrdd â’r egwyddorion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei gefnogaeth i’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr a dywedodd fod y Cyngor Sir yn llwyr gefnogi’r cyllid ychwanegol arfaethedig.  Soniodd am y sefyllfa heriol sy’n wynebu ysgolion o ganlyniad i gyni ariannol ond dywedodd fod gan bobl ifanc ar draws Sir y Fflint yr hawl i gael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys.   

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na ddylai pobl ifanc mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint ddioddef oherwydd amrywiaeth o ffactorau cymhleth iawn sydd wedi arwain at y diffygion hyn.  Rhoddodd esboniad manwl o’r egwyddorion dyrannu, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys ffactorau amddifadedd.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion a fydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Er bod hyn i’w groesawu, dywedodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y Cyngor yn manteisio i’r eithaf ar gyllideb y Cyngor er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffygion ysgolion.    

 

            Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Jim Connelly, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Fflint, a oedd hefyd yn bresennol, i wneud sylw ar y cynnig.

               

            Diolchodd Mr Jim Connelly i’r Cadeirydd am y cyfle i fynychu’r cyfarfod a chyfarch y Pwyllgor.  Croesawodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r Prif Swyddog, a dywedodd eu bod wedi esbonio rhywfaint o sail resymegol y cynnig a phe bai Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd wedi derbyn yr wybodaeth hon o flaen llaw, byddai wedi lleddfu rhywfaint ar y pryderon.  Gofynnodd a ellid gwella’r broses ymgynghori yn y dyfodol a soniodd am y penderfyniadau anodd a wnaed gan bob ysgol yn Sir y Fflint, o ganlyniad i gyni ariannol a chwtogi ar gyllidebau ysgolion.  Dywedodd ei fod  ...  view the full Cofnodion text for item 45