Mater - cyfarfodydd
Family Absence for Members of Local Authorities (Wales) (Amendment) Regulations 2021.
Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 19)
19 Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021. PDF 83 KB
rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn hawl absenoldeb mabwysiadwr ar gyfer Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor o’r cynnydd yn hawliau absenoldeb i Aelodau sy’n mabwysiadu. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd bod rhan berthnasol y Cyfansoddiad wedi’i newid i adlewyrchu’r cynnydd newydd mewn cyfnod absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau’r awdurdod lleol o 2 i 26 wythnos.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Smith.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021; a bod y Cyfansoddiad wedi’i ddiwygio yn unol â hynny.