Mater - cyfarfodydd
Member Development & Engagement
Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 20)
20 Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau PDF 79 KB
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw at y digwyddiadau a ddarparwyd, gan ddefnyddio technoleg fideo webex, o 1 Gorffennaf 2020 i 22 Mawrth 2021 fel y manylwyd yn yr adroddiad. Gwahoddodd Aelodau i gysylltu ag ef gydag unrhyw awgrymiadau yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno ar gyfer digwyddiadau datblygu Aelodau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Chris Bithell cytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys nifer yr Aelodau sy’n mynychu pob digwyddiad mewn adroddiadau yn y dyfodol i’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heinio gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd gyda Gweithdai Aelodau, Briffiadau a Seminarau ers yr adroddiad diwethaf yn cael ei nodi; a
(b) Os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, eu bod yn cysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.