Mater - cyfarfodydd
Recruitment of Chief Executive
Cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 87)
Recriwtio Prif Weithredwr
Pwrpas: I geisio cymeradwyaeth i recriwtio rôl y Prif Weithredwr yn dilyn hysbysiad o’r bwriad i ymddiswyddo a dderbyniwyd yn ddiweddar gan ddeiliad cyfredol y swydd ac i gytuno ar y broses recriwtio a phecyn tâl.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (87/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (87/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Recriwtio Prif Weithredwr
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad i geisio cymeradwyaeth i recriwtio i rôl y Prif Weithredwr yn dilyn yr hysbysiad diweddar o fwriad i ymddiswyddo a roddwyd gan ddeiliad presennol y swydd, ac i gytuno ar y pecyn a’r broses recriwtio.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunwyd y byddai’r degfed pwynt bwled yn y Disgrifiad Swydd yn cael ei ehangu i adlewyrchu’n gliriach y cafodd cyngor a chymorth eu darparu i Aelodau etholedig mewn ffordd anwleidyddol. Gyda’r diwygiad hwnnw, cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Mike Peers. Byddai’r geiriad terfynol yn cael ei rannu gyda’r panel cyfweld.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar recriwtio Prif Weithredwr newydd;
(b) Cytuno ar y pecyn tâl arfaethedig, sydd heb newid; a
(c) Chytuno ar y broses recriwtio a’r amserlen arfaethedig, gan ymgorffori’r diwygiad i’r Disgrifiad Swydd.