Mater - cyfarfodydd

Suspension of Car Parking Charges

Cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet (eitem 109)

109 Atal Taliadau Parcio Ceir pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn atal taliadau parcio ceir tan 30 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y cais i atal taliadau parcio ceir unwaith yn rhagor nes 30 Mehefin 2021, a darparodd fanylion am effaith ariannol y cais.  Byddai’r estyniad yn cefnogi ailagor canol trefi, ar ôl codi cyfyngiadau’r cyfnod clo, ac yn cefnogi ymdrechion i adfywio canol trefi fel a wnaed ym mis Mehefin 2020.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth i ymchwilio i ddulliau amgen digyffwrdd i dalu am gostau parcio ceir unwaith y byddai taliadau’n ailgychwyn.

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roedden nhw’n credu y byddai’n helpu cefnogi adferiad busnesau lleol. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog y rhesymeg y tu ôl i’r ail argymhelliad am y posibilrwydd o estyn y cyfnod, gan nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd pa bryd y bydd y cyfnod clo yn dod i ben. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cadarnhau y gallai’r Cyngor wneud cais am golli incwm ar gyfer Chwarter 1-2 o 2021/22 ond nid oedd arian wedi’i gadarnhau ar gyfer hyn ar gyfer Chwarter 3-4. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo atal taliadau parcio ceir ym meysydd parcio canol tref Sir y Fflint tan 30 Mehefin 2021;

 

(b)       Rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr, ar ôl trafod gyda’r Dirprwy Arweinydd a’r deilydd portffolio i ymestyn y cyfnod atal taliadau parcio ceir nes 30 Medi 2021, petai’r amgylchiadau ar y pryd yn cefnogi penderfyniad o’r fath; a

 

(c)        Chefnogi adolygiad o ddulliau talu amgen am daliadau parcio megis taliadau digyffwrdd neu dalu dros y ffôn.