Mater - cyfarfodydd

NEWydd Cleaning and Catering

Cyfarfod: 19/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 57)

57 Glanhau ac Arlwyo NEWydd

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar effaith y sefyllfa argyfyngus ar Gynllun Busnes Gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo NEWydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Glanhau ac Arlwyo NEWydd Cyf y wybodaeth ddiweddaraf ar effaith y sefyllfa frys ar y Cynllun Busnes ar gyfer Gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo NEWydd.

 

Wrth roi trosolwg o berfformiad yn 2020/21, tynnwyd sylw at y pwysau sylweddol yn codi o’r sefyllfa frys genedlaethol, ynghyd â datblygu modelau darparu gwasanaeth newydd i fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaethau a sicrhau diogelwch gweithwyr.  Rhannwyd cynllun busnes diwygiedig i gefnogi adferiad busnes ac ailadeiladu ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Gyfarwyddwr am ei adroddiad manwl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod yr adroddiad yn atgyfnerthu’r heriau oedd yn codi o’r sefyllfa frys.  Wrth gyfeirio at bwysigrwydd cynnal y cyflenwad o brydau ysgol am ddim, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei gais am i Aelodau lleol gael gwybod am unrhyw newidiadau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a wnaed i’r Cynllun Busnes ac Amcanion Strategol y busnes a gafodd eu heffeithio’n ddifrifol gan y pandemig; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi cyflawniadau NEWydd yn ystod y flwyddyn anodd hon a chefnogi’r busnes drwy ei gam adferiad ac ymlaen tuag at y cynlluniau ar gyfer twf yn y dyfodol.