Mater - cyfarfodydd

Mockingbird – update on the programme

Cyfarfod: 04/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 34)

34 Mockingbird – y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen pdf icon PDF 255 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr – Plant a Gweithlu adroddiad i roi trosolwg o weithredu Mockingbird. Fe soniodd am uchelgais y Cyngor i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn lleol a darparu gwasanaeth maethu effeithiol i blant a gofalwyr maeth. Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd Steph Martin, Swyddog Cyswllt Mockingbird, i roi’r newyddion diweddaraf am Brosiect Maethu Mockingbird.

 

Dywedodd y Swyddog Cyswllt bod y Cyngor wedi lansio ei glwstwr Mockingbird cyntaf yn Sir y Fflint ym mis Ionawr 2021 (yr enw a roddir i bob gr?p sy’n cynnwys rhwng 6-10 teulu maeth sy’n cael eu cefnogi gan un gofalwr maeth profiadol neu ofalwr Hwb).Fe soniodd am y cynnydd cadarnhaol sydd wedi’i wneud a dywedodd bod plant yn y grwpiau yn meithrin perthnasau da ac yn gallu cael gafael ar raglenni cymunedol.Fe lansiwyd ail glwstwr ym mis Chwefror 2021 sydd â 5 teulu lloeren, 8 o blant sy’n derbyn gofal, 10 o blant biolegol 2 o blant yn ‘Pan rwy’n barod’. Dywedodd sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ehangu trwy’r anogaeth a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan ofalwyr maeth profiadol i ofalwyr maeth newydd. Uchelgais y Cyngor yw bod clwstwr Mockingbird arall yn cael ei ffurfio yn 2021 ynghyd ag ymgyrch ddwys i recriwtio rhagor o ofalwyr maeth cyffredinol.   

 

Fe soniodd y Swyddog Cyswllt am effaith pandemig Covid-19 ar brosiect Mockingbird a’r gymuned faethu ond dywedodd eu bod wedi aros ar y trywydd iawn er mwyn ei ddatblygu a’i weithredu.Gan gyfeirio at fenthyciad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhaglenni cymdeithasol arloesol dywedodd bod LlC wedi cytuno i ymestyn y cyfnod i ad-dalu’r benthyciad yn sgil cyfyngiadau parhaus Covid yn dilyn ymgynghoriad.Fel rhan o drefniant y benthyciad fe eglurodd y Swyddog Cyswllt y bu cytundeb i oedi cam gwerthusiad allanol Mockingbird yn Sir y Fflint o 12 mis er mwyn galluogi’r gwerthusiad i ymdrin â’r cyfnod pan roedd y prosiect yn gwbl weithredol.

 

Fe soniodd yr Aelodau am safon uchel yr adroddiad gan ddweud eu bod yn cefnogi’r Prosiect gan longyfarch y swyddogion am eu gwaith.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cadeirydd fe eglurodd y Swyddog Cyswllt beth oedd y gwaith cynllunio a gweithgareddau i feithrin perthnasau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd o fewn y clystyrau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis a oedd modd darparu ychydig o senarios yn y dyfodol i ddangos sut roedd rhaglen Mockingbird yn gwella’r gwasanaeth gofal maeth. 

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi gweithrediad clystyrau un a dau a bod clwstwr rhif tri yn cael ei sefydlu yn hydref 2021; a

 

 (b)      Bod effeithiolrwydd y model o ran dadansoddiad cost a budd cymdeithasol yn cael ei nodi.