Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 31)
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Ionawr 2021.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021, fel y’u cynigiwyd gan Allan Rainford a’u heilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 22 – tynnodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sylw at y penderfyniad diwygiedig i egluro fod ddeddfwriaeth yn caniatáu i Aelod etholedig gael ei benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. Roedd hyn wedi ei gyfathrebu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr.
Cofnod rhif 23 – fel yr awgryma Sally Ellis, cytunwyd y dylid cynnig y ddau le sy’n weddill ar y panel recriwtio ar gyfer yr aelod lleyg ychwanegol i un o’r aelodau lleyg presennol ac un o aelodau etholedig y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.