Mater - cyfarfodydd

Review of Protocol for Meeting Contractors

Cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 77)

77 Adolygiad o’r Protocol ar gyfer Cwrdd â Chontractwyr pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ymgymryd ag adolygiad parhaus o’r Protocol i sicrhau ei fod yn ddiweddar ac yn berthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i adolygu’r Protocol oedd wedi ei ddiweddaru ac oedd yn rhoi arweiniad i aelodau yn eu hymwneud â phartïon sy’n ceisio neu’n cymryd rhan mewn contractau gyda’r Cyngor. Argymhellodd yr adroddiad y dylid dileu rhannau o’r Protocol sy’n ymwneud â Chynllunio a’u hymgorffori yn y Cod Canllawiau Cynllunio. Roedd y newidiadau’n ystyried materion a godwyd gan y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ystod y broses ymgynghori.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Chris Bithell, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei ddiweddaru i gynnwys darpariaethau perthnasol o’r Protocol, ynghyd â chyngor i Aelodau ar ymgynghoriadau cyn ymgeisio.

 

Ar ôl cyflwyno’r argymhellion, anogodd y Cynghorydd Ian Roberts yr Aelodau i ofyn am gyngor gan swyddogion Cyfreithiol os oedd ganddynt unrhyw ymholiadau.

 

Pan gyflwynwyd yr argymhellion i’r bleidlais, cawsant eu cario.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diwygio’r rhannau o’r Protocol ar gyfer Aelodau yn eu hymwneud â Chontractwyr / Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill sy’n ymwneud ag ymdrin â phartneriaid a allai fod yn gwneud cais neu’n chwilio am gontract gyda’r Cyngor, fel y dangosir yn yr atodiad i’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y rhannau o’r Protocol ar gyfer Aelodau yn eu Hymwneud â Chontractwyr / Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill sy’n ymwneud â Chynllunio yn cael eu trosglwyddo i’r Cod Canllawiau Cynllunio (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu hymgorffori ynddo) a bod y Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei ddiweddaru.