Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Strategic Plan

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 33)

33 Cynllun Strategol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2021/22 - 2023/24 er ystyriaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2021-2024 oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniad gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru. Er y byddai pob adolygiad blynyddol a rhai uchel eu blaenoriaeth yn cael eu gwneud o fewn 2021/22, byddai archwiliadau blaenoriaeth ganolig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gyda deiliaid portffolio. Byddai unrhyw waith i ymateb i faterion sy’n codi neu yn ymwneud â sefyllfa frys yn cael blaenoriaeth dros adolygiadau blaenoriaeth ganolig.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr y Cynllun cynhwysfawr. Er y gallai peth o’r gwaith gael ei oedi oherwydd problemau gallu, disgwyliwyd i’r Cynllun gael ei gyflwyno’n gyffredinol ar amser o fewn blwyddyn.

 

Myfyriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar werth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o fewn y sefydliad a dywedodd fod rhai archwiliadau yn ymwneud â materion cyfredol wedi eu blaenoriaethu.

 

Pan ofynnodd Sally Ellis, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod lefelau is o adnoddau eleni wedi eu cynnwys fel ffactorau yn y Cynllun ac y byddai rhai adolygiadau blaenoriaeth ganoligyn rhoi mwy o gydbwysedd a hyblygrwydd o ystyried ansicrwydd y sefyllfa argyfwng. Rhoddodd fanylion hefyd am amrywiol ffrydiau gwaith yngl?n â chynlluniau atal twyll.

 

Ailadroddodd y Prif Weithredwr yr ymrwymiad parhaus na fyddai Archwilio Mewnol yn cael ei leihau ar unrhyw bryd heb gytundeb y Pwyllgor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Johnson a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel adnoddau’r archwiliad, mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2021-2024.