Mater - cyfarfodydd

Development of Shotton Master Plan

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (eitem 95)

95 Datblygu Uwchgynllun Shotton pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton i hwyluso adfywio amgylcheddol ac economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac esboniodd mai Shotton yw un o’r trefi mwyaf yn Sir y Fflint, gyda chyfleusterau lleol da a chysylltiadau cludiant gwych i’r bws lleol a rhanbarthol, rheilffordd, llwybrau teithio llesol a rhwydweithiau priffyrdd. Mae yna hefyd lawer o ardaloedd o fewn y dref sydd â photensial sylweddol ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu.

 

            Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor ac Aelodau lleol wedi derbyn nifer gynyddol o bryderon a chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol eraill a fyddai, os na fydd unrhyw un yn mynd i’r afael â nhw, yn difetha’r ardal ac yn tanseilio ymdrechion lleol i gadw’r dref yn lân a thaclus a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rhywle mae pobl yn dymuno byw a gweithio ynddo, yn ogystal ag ymweld ag ef.

 

            Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny a manteisio i'r eithaf ar yr elfennau cadarnhaol a chyfleoedd posibl ar gyfer y dref, penderfynwyd sefydlu Gr?p Llywio Amlasiantaeth i ddatblygu a goruchwylio'r gwaith i gyflwyno Uwchgynllun Shotton.  Byddai’r cynllun yn dwyn y bobl gywir ynghyd gyda'r nod o adfywio a gwneud y gwelliannau angenrheidiol i ganol y dref a'r ardal gyfagos er mwyn helpu i sicrhau y gall y dref gwrdd â'i gwir botensial.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a mynegodd ei gefnogaeth i uwchgynllun Shotton, sy’n gymuned allweddol yng nghanol Glannau Dyfrdwy gyda nifer o fanteision cludiant. Mae angen sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo yng nghanol trefi ac mewn cymunedau. Cyfeiriodd at y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i adfywio canol tref Treffynnon, y gwaith sydd ar y gweill ym Mwcle i adfywio’r dref honno a'r gwaith parhaus sy’n cael ei wneud ar uwchgynllun Y Fflint. Dywedodd fod angen i’r gwaith fod yn uchelgeisiol ac yn realistig ar yr un pryd. Roedd yr Aelodau lleol yn gwbl gefnogol i'r uwchgynllun.

 

            Dull amlasiantaeth sydd i’r uwchgynllun a byddai’n fuddiol pe bae cynlluniau'n barod i gael eu rhoi ar waith pan fydd yr arian ar gael.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad, yn enwedig y gwaith amlasiantaeth a fyddai’n digwydd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer y dref.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton;

 

 (b)      Y dylid cyflwyno adroddiad arall i’r Cabinet i gael eu cymeradwyaeth i’r Uwchgynllun, i’w gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2021.