Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 130)
130 Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol PDF 130 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd, yn cynnwys cynnydd gyda’r Cynllun Busnes.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 130 PDF 136 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 130 PDF 218 KB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 130 PDF 130 KB
- Enc. 4 for Investment and Funding Update, eitem 130 PDF 95 KB
Cofnodion:
Pwysleisiodd Mrs Fielder y sefyllfa gref roedd y Gronfa ynddi ar hyn o bryd a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Roedd y gwaith parhaus gyda Buddsoddi Cyfrifol wedi cymryd cryn dipyn o amser Mrs Fielder yn ychwanegol at ei dyletswyddau arferol.
- Yn dilyn y cyflwyniad a roddwyd i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd, bwriedir i’r tîm adrodd wrth y Pwyllgor ym mis Mehefin gyda map ffordd yn amlinellu bwriadau’r Gronfa o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
- Argymhellodd Mrs Fielder fod y Gronfa yn dod yn aelod cysylltiedig o Penions for Purpose, oedd yn fenter gydweithredol o reolwyr effaith, cronfeydd pensiwn, mentrau cymdeithasol ac eraill oedd yn rhan neu a diddordeb mewn buddsoddiad effaith.Yn ychwanegol at y gwaith mae’r Gronfa yn ei ddatblygu i fynd i’r afael â risg yr hinsawdd, byddai hyn yn cynorthwyo bwriad y Gronfa i fuddsoddi, lle bo modd, yn uno a’r nodau datblygu cynaliadwy. Mae The Good Economy yn gwmni cynghori cymdeithasol, sy’n arbenigo mewn mesur effaith a rheoli ac mae Mrs Fielder wedi bod yn rhan o rai o’u gweithgorau nhw hefyd.
- Mae Mrs Fielder hefyd wedi bod yn rhan o sawl cyfarfod gydag aelodau Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru ac mae wedi cynnwys rheolwyr allanol y Gronfa allai gynnig canllawiau a chymorth ar rai o’r prosiectau unigol.
- Mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi creu gr?p cynghori ar fuddsoddi cyfrifol sy’n cynnwys detholiad o Reolwyr Cronfa, Ymgynghorwyr a chynrychiolwyr o Gronfeydd a grwpiau awdurdod gweinyddu allweddol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Penodwyd Mrs Fielder yn gynrychiolydd cronfeydd Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru.Mae Mr Buckland hefyd wedi ei benodi ar ran Mercer.
- Mae’r Gronfa wedi bod yn rhan o’r Sefydliad Effaith a lansiwyd yn 2019 gyda'r bwriad o gyflymu'r twf a gwella effeithlonrwydd effaith y farchnad buddsoddiad effaith yn y DU ac yn rhyngwladol.Maen nhw wedi datblygu pedair egwyddor arweiniol ar gyfer cynlluniau pensiwn ac argymhellir fod y Gronfa yn mabwysiadu’r egwyddorion hyn gan eu bod wedi eu alinio i Bolisi Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa.
- O ran y Cyfrifoldebau Dirprwyedig, mae’r Gronfa yn dal a llif arian cadarnhaol.Mae Mercer a’r Gronfa wedi cydweithio a chafodd £15 miliwn ei ymrwymo i reolwr Ecwiti Preifat, Livingbridge.
Ychwanegodd Mr Latham ei fod wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yngl?n â phenderfyniad i dynnu nôl o fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil a buddsoddi mewn buddsoddiadau lleol. Roedd y Cynghorydd Williams yn ymwybodol o hyn.
O ran Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, gofynnodd Mr Everett beth allai’r Gronfa ddisgwyl o ran amserlen.Dywedodd Mrs Fielder nad oedd hi’n sicr ar hyn o bryd.Nododd nad oes gan y Gronfa yr arbenigedd ac nad yw wedi ei harfogi i ddadansoddi’r prosiectau unigol ei hun, o ystyried fod y gwaith yn cael ei gwblhau drwy reolwr buddsoddi fel arfer. Gwnaeth Mrs Fielder sylw y gallai rhai o reolwyr presennol y Gronfa hwyluso hyn ond y byddai’n rhaid i’r gronfa weithio gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru yn hyn o beth.
Holodd y Cynghorydd Bateman a ... view the full Cofnodion text for item 130