Mater - cyfarfodydd
Pension Administration / Communications Update
Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 129)
129 Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn PDF 161 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor o faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu, gan gynnwys cynnydd y Cynllun Busnes.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 118 KB
- Enc. 2 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 245 KB
- Enc. 3 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 215 KB
- Enc. 4 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 367 KB
- Enc. 5 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 390 KB
- Enc. 6 for Pension Administration / Communications Update, eitem 129 PDF 130 KB
Cofnodion:
Nododd Mrs Williams y pwyntiau allweddol canlynol o’i hadroddiad:
· Roedd y tîm wedi llwyddo i gwblhau’r rhan fwyaf o’r meysydd gwaith yn y cynllun busnes.
· Roedd rhai eitemau ar y cynllun busnes yn dal heb eu gorffen oherwydd yr oedi mewn canllawiau a rheoliadau, a hynny wedi dal pethau yn ôl.
· Roedd y tîm wedi dechrau prosesu cynllun busnes 2021/2022.
· Roedd yr ymarfer cysoni GMP i fod i ddod i ben ar ddiwedd Chwefror 2021.
· Gwnaed cynnydd gyda sesiynau ymgysylltu â chyflogwr, McCloud.
· O ran y dangosydd perfformiad allweddol, roedd gostyngiad mewn achosion oedd heb eu penderfynu i 5,000 ac roedd 10,000 tua 2 flynedd yn ôl.Roedd hyn yn hynod gadarnhaol i’r Gronfa ac yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y tîm yn ogystal â chefnogaeth y Pwyllgor oedd yn cydnabod yr angen am adnoddau i hwyluso hyn.
· Yn dilyn cymeradwyo’r achos busnes am Brif Swyddog Gwefan a Phrif Swyddog Cyflogau mae penodiadau wedi ei wneud i’r ddwy swydd.
· Mae’r tîm wedi ei effeithio gan salwch nad oedd yn ymwneud â COVID a phrofedigaethau teuluol yn ddiweddar. Ond mae’r hwyliau’n dda ac mae pawb wedi parhau i weithio’n dda ac ni effeithiwyd ar gyfraddau gwaith.
Rhoddodd Mr Everett ganmoliaeth i’r tîm am eu gwydnwch yn ystod yr amseroedd anodd yma am aros yn gadarnhaol a dal i weithio er gwaethaf hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.