Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2021/22 - Final Closing Stage

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 60)

60 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 - Y cam cau olaf pdf icon PDF 79 KB

I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad yn trafod y materion allweddol canlynol:

 

·         gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys

·         gofyniad cyllideb ychwanegol 2021/22

·         Datrysiadau cyllideb 2020/21

·         Treth y Cyngor

·         cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol

·         risgiau agored

·         Cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a heb eu clustnodi

·         barn broffesiynol a sylwadau i gloi

·         edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Yn dilyn proses ymgynghori helaeth ar y gyllideb, roedd yr holl faterion a oedd yn weddill wedi'u cau gan y Cabinet ym mis Ionawr. Ar ôl cael ei gefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, argymhellion y Cabinet oedd cydbwyso'r gyllideb yn seiliedig ar y gofyniad isafswm cyllideb heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog ac eithrio cyflogeion â chyflogau o dan £24k. Roedd y Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Rhagfyr yn gynnydd ariannol o £7.392m (3.7%) uwchlaw swm 2020/21 ac roedd ymateb ffurfiol y Cyngor yn nodi barn gyfunol y Cabinet ac Aelodau etholedig.  Roedd y dull doeth a chytbwys o ymdrin â'r gyllideb wedi bod yn llwyddiannus wrth ddiogelu gwasanaethau, ond roedd graddfa’r sefyllfa argyfwng wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol a fyddai'n parhau hyd at 2021/22.

 

Roedd y cynnydd blynyddol o 3.95% yn Nhreth y Cyngor yn dilyn y gyfarwyddeb glir a osodwyd gan y Cyngor i gynnal lefel fforddiadwy o dan 5%. Roedd hyn yn cynnwys 3.45% ar gyfer cyllidebau'r Cyngor a 0.5% fel cyfraniadau i gyrff rhanbarthol gan gynnwys Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Manylwyd ar braeseptau ychwanegol ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau (cynnydd blynyddol o 5.14%) a'r rhai ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned unigol yn yr adroddiad.

 

Cynigwyd yr argymhellion ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts, a ddiolchodd i'r Prif Weithredwr a'r swyddogion am eu gwaith drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Er ei fod yn cydnabod effaith cynnydd lleol yn Nhreth y Cyngor, croesawodd ddiogelu gwasanaethau'r Cyngor a buddsoddi mewn blaenoriaethau fel ysgolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Siaradodd hefyd am nifer o risgiau agored fel Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir lle'r oedd y Cyngor wedi gwneud darpariaeth ychwanegol yn y gyllideb sylfaenol a galwodd ar Lywodraeth Cymru am gyllid wrth gefn a oedd yn cael ei gadw’n genedlaethol.

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Gyllid, eiliodd y Cynghorydd Glyn Banks y cynnig a chyfeiriodd at ymateb y Cyngor i'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys y galw a wnaed dro ar ôl tro am adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Peers yr heriau o ran cau'r bwlch yn y gyllideb a diogelu gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cododd bryderon am effaith y sefyllfa argyfwng a dywedodd fod angen adolygiad o wariant, gyda chostau cynyddol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir yn  ...  view the full Cofnodion text for item 60