Mater - cyfarfodydd

Pay Policy Statement for 2021/22

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 65)

65 Datganiad Polisïau Tâl ar Gyfer 2020/21 pdf icon PDF 90 KB

Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r nawfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2021/22 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol.  Roedd yn rhwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol.

 

Wrth grynhoi'r prif newidiadau, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at argymhelliad 2 yn yr adroddiad a dywedodd ei fod yn disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Lywodraeth y DU dynnu’r Rheoliadau Cap Ymadael y Sector Cyhoeddus yn ôl.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Billy Mullin i'r swyddogion am yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid diwygio'r adran ar Honorariwm i gydnabod cyflogeion a oedd wedi'u secondio i rolau eraill yn ystod y sefyllfa argyfwng.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod trefniadau o'r fath yn cael eu gwneud.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Prif Weithredwr, cynigiodd y Cynghorydd Peers y dylid ychwanegu'r geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' at y polisi i adlewyrchu hyn.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Mullin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Carver. Cafodd yr argymhellion eu rhoi i'r bleidlais a'u cynnal. <0}

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo:

 

 (b)      Bod y Cyngor Sir yn nodi'r sefyllfa genedlaethol ar y Rheoliadau Cap Ymadael a newidiadau posibl i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a allai olygu newidiadau i Ddatganiadau Disgresiwn ar Bolisïau Tâl a Phensiynau 2021;

 

 (c)      Bod y Cyngor Sir yn dirprwyo awdurdod i'r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol i ddiweddaru Datganiad ar Bolisïau Tâl 2021/22 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol fel ei fod yn parhau'n gywir ac yn gyfredol; a

 

 (d)      Bod y polisi'n cynnwys y geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' i adlewyrchu sefyllfaoedd lle gall taliadau Honorariwm fod yn berthnasol.