Mater - cyfarfodydd

Appointments of Independent Members to the Standards Committee

Cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 80)

80 Penodi Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Ystyried penodi’r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer y swyddau Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad y broses recriwtio ar gyfer dwy swydd wag Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Yn dilyn cyfweliadau, argymhellodd yr adroddiad y dylid penodi’r ymgeisydd y ffafrir (Gill Murgatroyd) gyda’r swydd wag sy’n weddill yn cael ei hysbysebu eto.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Paul Johnson, a oedd ill dau wedi cymryd rhan yn y panel cyfweld.

 

Yn ôl cais y Cynghorydd Ian Dunbar, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar y broses ar gyfer penodi cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Gill Murgatroyd yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Safonau tan 31 Mawrth 2027.