Mater - cyfarfodydd
Appointments of Independent Members to the Standards Committee
Cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 80)
80 Penodi Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau PDF 85 KB
Pwrpas: Ystyried penodi’r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer y swyddau Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Pen portrait of Gill Murgatroyd, eitem 80 PDF 43 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Penodi Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad y broses recriwtio ar gyfer dwy swydd wag Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Yn dilyn cyfweliadau, argymhellodd yr adroddiad y dylid penodi’r ymgeisydd y ffafrir (Gill Murgatroyd) gyda’r swydd wag sy’n weddill yn cael ei hysbysebu eto.
Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Paul Johnson, a oedd ill dau wedi cymryd rhan yn y panel cyfweld.
Yn ôl cais y Cynghorydd Ian Dunbar, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar y broses ar gyfer penodi cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor.
Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.
PENDERFYNWYD:
Bod Gill Murgatroyd yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Safonau tan 31 Mawrth 2027.