Mater - cyfarfodydd

Hwb Digital Programme

Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 46)

46 Rhaglen Ddigidol Hwb pdf icon PDF 118 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Ddigidol Hwb a chanlyniad yr asesiad i nodi lefelau mynediad i ddyfeisiau a band eang i ddysgwyr ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd adroddiad a oedd yn rhoi manylion am sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion.

 

            Yn ystod y pandemig, cyfathrebwyd â’r ysgolion yn rheolaidd a chynhaliwyd dadansoddiad o'r bylchau o ran y dyfeisiau a oedd ar gael.  Roedd hyn yn cynnig gwybodaeth am faint o ddyfeisiau a oedd gan yr ysgolion yn barod, a oedd yn galonogol iawn, ond roedd angen mwy er mwyn bodloni’r fformiwla y cytunwyd arni gyda’r ysgolion.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod angen 6,000 yn fwy o ddyfeisiau yn dilyn y cyflenwad diwethaf a roddwyd i ysgolion yn Ionawr a Chwefror a chadarnhaodd hefyd y disgwylir archeb Chrome Books gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai a fydd yn diwallu rhai o’r anghenion yn y dadansoddiad o'r bylchau. 

 

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion am ddysgu cyfunol a dangoswyd dadansoddiad manwl yn adran 1.04 yr adroddiad.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod dyfeisiau MiFi wedi eu caffael fel rhan o HWB a bod y rhain wedi cael eu rhoi i deuluoedd nad oedd â digon o gysylltiad Wi-Fi.  Cyfeiriodd at Sefydliad Neumark a gefnogodd bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru i gaffael 110 o ddyfeisiau eraill a chafodd tua 80 neu 90 o ddyfeisiau eu rhoi’n uniongyrchol i ysgolion lle roedd eu hangen.  Bydd model cynaliadwy’n cael ei gyflwyno drwy’r fformiwla ariannu Ysgolion i sicrhau bod gan bob ysgol yr un offer gan y bydd angen i ysgolion nawr gynnal yr un lefel o ddyfeisiau, yn y gobaith y bydd gan yr holl ddysgwyr fwy o ddyfeisiau i wneud eu gwaith cartref. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr effaith ariannol ar ysgolion er mwyn diweddaru’r dyfeisiau’n barhaus a thalu am waith trwsio ayb a allai fod yn gostus yn y dyfodol.  Deallai fod hyn yn cael ei ystyried fel dyraniad ar gyfer cyllid yn y fformiwla cyllideb ysgolion a gofynnodd a yw'r ysgolion yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran cost.  Wrth ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Ysgolion gan y byddai dyfeisiau digidol nawr yn rhan allweddol o addysg disgyblion ac offer digidol yw’r adnodd newydd y mae angen i ysgolion gyllidebu ar ei gyfer.  Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Smith am eglurder ar Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).  Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai hwn yw rhwydwaith y rhyngrwyd sy’n teithio drwy rwydwaith y cyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod y waliau tân yn cael eu cynnal, ynghyd â chyflymder y rhyngrwyd.  Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod hyn yn cael ei fonitro gan adran TG y Cyngor a bod gan fwyafrif yr ysgolion gapasiti digonol yn ystod y cyfnod clo.  Os byddai unrhyw broblemau gyda’r lled band a ddefnyddiwyd gan ysgolion i gyflwyno gwersi, cadarnhaodd y Prif Swyddog y gallai ysgolion uwchgyfeirio hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 46