Mater - cyfarfodydd
School Attendance and Exclusions
Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 41)
41 Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau PDF 101 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Attendance and Exclusion Data 2019-20, eitem 41 PDF 158 KB
- Appendix 2 - Attendance Codes, eitem 41 PDF 54 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) drosolwg o bresenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer blwyddyn 2019/20, a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth am y tueddiadau a welwyd ar gyfer presenoldeb, absenoldeb rheolaidd a pharhaol a gwaharddiadau cyfnod penodol a amlygwyd gan Estyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y tabl a ddangosai waharddiadau cyfnod penodol a gofynnodd pa brosesau sy’n bodoli er mwyn deall pam y gwelir cynnydd yn y ffigurau hyn a pha gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw. Wrth ymateb, rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaith mae’r tîm yn ei wneud, sy’n fwy rhagweithiol, gan weithio gyda phlant, teuluoedd, penaethiaid a chymunedau er mwyn deall materion yn well yn gynharach.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi’r data presenoldeb ar gyfer ysgolion Sir y Fflint a’r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion i gefnogi mesurau ymgysylltu a diogelu yn ystod y cyfnod clo; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod cyfnod clo COVID-19 a chau ysgolion wedi effeithio ar y data a ddarparwyd.