Mater - cyfarfodydd
End of Year Performance Monitoring Report
Cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 10)
10 Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn PDF 109 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: End of Year Performance Monitoring Report 2020-21, eitem 10 PDF 572 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor. Roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wedi rhagori ar eu targedau.
Roedd y Prif Swyddog yn canmol gwaith holl swyddogion o fewn y portffolio, a oedd yn amlwg yn ôl y nifer o fesurau perfformiad Gwyrdd a ddangoswyd o fewn yr atodiad i’r adroddiad. Rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), gan egluro er nad oedd y targed wedi’i gyflawni ar gyfer y mesur hwn, darparwyd 149 o eiddo, gyda dros hanner y rhain yn gartrefi teulu. Hefyd, rhoddodd ddiweddariad ar y dyddiad targed Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sydd wedi’i ymestyn gan flwyddyn ychwanegol oherwydd y pandemig.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collet a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn.