Mater - cyfarfodydd
End of Year Performance Monitoring Report
Cyfarfod: 10/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 8)
8 Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn PDF 107 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: End of Year Performance Monitoring Report 2020-21, eitem 8 PDF 7 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd diwedd blwyddyn yn erbyn y blaenoriaethau corfforaethol sy’n berthnasol i’r Pwyllgor fel y nodwyd ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21. Ar y cyfan roedd yn adroddiad cadarnhaol o ystyried yr heriau o’r sefyllfa o argyfwng, gyda 67% o’r dangosyddion perfformiad yn diwallu neu’n rhagori ar eu targedau.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, siaradodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am effaith yr argyfwng ar dargedau a thueddiadau. Dywedodd bod y data yn dangos bod y Cyngor wedi cynnal cofnod da o ran perfformiad a chynllunio effeithiol gan barhau i fod yn uchelgeisiol.
Eglurodd y Cynghorydd Richard Jones bod effeithiau’r cyfnod argyfwng wedi’i gwneud yn anodd cymharu perfformiad gyda’r blynyddoedd blaenorol.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod rhai o’r targedau perfformiad wedi’u haddasu yn ystod y cyfnod ac mai un o’r amcanion ar gyfer adfer yw ailosod yr holl dargedau ac ailddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn sylwadau cadarnhaol gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar arddull yr adroddiad a gyhoeddwyd, diolchodd y swyddogion i'r Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am ei waith i gasglu a chyflwyno data mewn arddull y gellir ei ddarllen.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Heesom a Shotton.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn a bydd yn monitro meysydd sy'n tanberfformio a cheisio gwybodaeth bellach fel y bo'n briodol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi cael ei sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ar gyfer tanberfformio, sy’n cael eu hegluro’n bennaf gan yr aflonyddwch a achosodd y pandemig.