Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)

Cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 51)

51 Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a rhoddodd ddiweddariad rheolaidd ar strategaeth adfer y portffolio a blaenoriaethau adfer yn dilyn y pandemig. Amlygwyd y prif amcanion yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys meysydd parcio mewn safleoedd cyrchfan fel Parc Gwepra a Thalacre a'r goblygiadau o ran ailagor busnesau nad ydynt yn hanfodol, adeiladau trwyddedig a lletygarwch.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr arolwg Clefyd Coed Ynn gan adrodd ar y bwriad i dynnu coed ar yr A541 Wyddgrug – Dinbych. Byddai’n rhaid cau’r ffordd am ddiwrnod wrth ddefnyddio’r offer sy'n tynnu coed i lawr ar unwaith, gan leihau aflonyddwch i'r cymunedau lleol. Byddai adroddiad yn cael ei ddychwelyd i’r pwyllgor ar hyn.  Yna tynnodd y Prif Swyddog sylw a darparu gwybodaeth am y risgiau i'r pwyllgor. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at eitem 1.01 yn yr adroddiad a gofynnodd beth oedd ystyr trefniadau trosglwyddo.   Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y Gr?p Strategaeth Cynllunio a oedd, yn ei farn o, yn becyn cymorth pwysig iawn, yn seiliedig ar aelodau etholedig. Awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol adolygu’r strwythur hwnnw yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yna cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnodd am ddiweddariad ar ble roeddem ni o ran hyn ac a allai bellach fynd yn ei flaen. Adroddodd y Cynghorydd Heesom ar yr anawsterau hirsefydlog i gysylltu â staff cynllunio, gydag unrhyw newyddion ar welliannau i'w croesawu'n fawr.

Mewn ymateb, cyfeiriodd y Prif Swyddog at dudalen 69 a gwrandawiad y Cynllun Datblygu Lleol, a oedd i fod i gychwyn ym mis Chwefror ond a oedd wedi ei ohirio ddwy waith, ond a oedd bellach i fod i ddechrau ar 13 Ebrill.Yr unig reswm am yr oedi oedd am nad oedd yr Arolygiaeth ar gael.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at gylch gorchwyl y Gr?p Strategaeth Cynllunio a adolygwyd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf.Dwy swyddogaeth y gr?p hwn oedd arwain gwaith cynhyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol, a delio ag unrhyw faterion mewn perthynas â'r broses gynllunio statudol. Nid oedd y Cylch Gorchwyl wedi newid dros y pedair blynedd diwethaf. Yr hyn a oedd wedi newid oedd bod y ffocws yn bennaf ar ddelio â'r Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yn teimlo ei fod wedi treulio ei amser yn briodol ers i'r cylch gorchwyl gael ei ddiwygio. O ran cyfathrebu â'r portffolio Cynllunio, adroddodd ar e-bost a oedd yn cael ei anfon at yr holl Aelodau yr wythnos hon a fyddai, gobeithio, yn lleddfu pryderon aelodau.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y trefniadau trosglwyddo ar gyfer adferiad a nododd fod y Cyngor mewn cyfnod ymateb 12 mis yn ôl pan oedd cyfnod clo Covid yn weithredol. Cafodd meysydd critigol eu blaenoriaethu gyda'r swyddogion hynny sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaeth. Adroddodd ar swyddogion o fewn rolau diogelu Cymuned a Busnes a symudwyd i gefnogi ymateb Covid. Fodd bynnag, eglurodd na ddaeth yr un gwaith arall i ben, yn hytrach roedd yn achos o newid y ffordd yr ymgymerwyd â'r  ...  view the full Cofnodion text for item 51