Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy Update

Cyfarfod: 11/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 59)

59 Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios Corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adfer.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad am y sgôr risg ar gyfer CF18, sy’n ymwneud ag effaith ariannol y sefyllfa frys. O ran gostyngiad o ran lefelau casglu Treth y Cyngor (CF08), roedd y duedd o ran risg a’r risg waelodol yn adlewyrchu’r effaith o’r sefyllfa frys, a oedd yn cael ei lliniaru ar hyn o bryd trwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i swyddogion a mynegodd bryderon am effaith y sefyllfa frys am lwyth gwaith gweithwyr, a lefelau casglu Treth y Cyngor yn y dyfodol hefyd. O ran gweithlu, nodwyd y bu cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn dilyn cyrsiau sy’n ymwneud â straen.

 

Ar gais y Cynghorydd Heesom, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i ddarparu rhagor o wybodaeth i Aelodau am y broses o newid i ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd o bell.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn y gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol.