Mater - cyfarfodydd

Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Update Report

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (eitem 93)

93 Adroddiad diweddaru'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pdf icon PDF 147 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd rhaglen Adeiladu Tai SHARP y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen adeiladu tai y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol ar gyfer eiddo Cymdeithasol, Rhent Fforddiadwy a Rhannu Ecwiti.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn sôn am newidiadau yn yr angen o ran tai, a’r sail resymegol dros adolygu ac addasu’r mathau o ddeiliadaeth ar gyfer datblygu eiddo yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod y llwybrau cyflenwi ategol yr ymwneir â nhw ochr yn ochr â Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys caffael eiddo Adran 106, Pecynnau Dylunio ac Adeiladu ac argaeledd Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru.

 

Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddechrau adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy drwy ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) gyda'r nod o ddarparu hyd at 500 o eiddo Cymdeithasol ar Rent newydd gan y Cyngor ac eiddo newydd ar Rent Fforddiadwy dros gyfnod o bum mlynedd, ynghyd â nifer o flaenoriaethau strategol economaidd ac adfywio ehangach.

 

Mae’r Cyngor yn y broses o ddarparu 447 o gartrefi newydd yn Sir y Fflint, ac mae hefyd wedi darparu 148 o gartrefi newydd eraill y tu hwnt i SHARP, sy’n gyflawniad arwyddocaol ac mae wedi creu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai.

 

Cafodd y rhaglenni adeiladu eu hysgogi o ganlyniad i’r angen o ran tai ac mae tua 1,900 o aelwydydd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai ar hyn o bryd, gyda’r galw mwyaf mewn ardaloedd yn Yr Wyddgrug, Mynydd Isa, Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Queensferry a Shotton.  

 

Tai Teg sy’n rheoli’r Gofrestr Tai Fforddiadwy ar ran y Cyngor ac ar hyn o bryd mae 120 o ymgeiswyr wedi cofrestru i brynu a 216 wedi cofrestru i rentu. Mae cyfanswm o 54 aelwyd ar y gofrestr tai arbenigol ar hyn bryd, gyda 47 ohonynt angen eiddo wedi’i addasu a saith ohonynt angen eiddo sydd â phedair neu ragor o ystafelloedd gwely.

 

Mewn perthynas â Chronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru, bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gwerth cyfanswm o £213,000 yn ymwneud â dau safle yng Nghei Connah sy’n safleoedd segur ar hyn o bryd. Mae astudiaethau desg a gwaith ymchwiliad tir yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i weld a fyddai’r safleoedd hynny’n hyfyw.

 

Bu Tîm y Rhaglen Dai yn datblygu fframwaith rhanbarthol ar gyfer adeiladu tai a byddant yn ceisio darparu tai newydd yn y dyfodol drwy'r cwmnïau adeiladu rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r broses dendro wedi ei chwblhau ac mae’r Cyngor yn cysylltu â chwmnïau ac yn trafod prosiectau sydd ar gweill yn y dyfodol.

 

Mae cyllideb flynyddol o £121,000 ar gyfer gwaith ymchwilio ac astudiaethau dichonoldeb yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a bydd yr adroddiad yn ceisio defnyddio hwn er mwyn cynorthwyo i gyflwyno cynlluniau gan ddefnyddio'r fframwaith adeiladu newydd.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw ar nifer yr unedau y llwyddwyd i’w darparu hyd yma.

 

            Croesawodd yr aelodau’r adroddiad gan nodi mai canlyniad y bleidlais dai a  ...  view the full Cofnodion text for item 93