Mater - cyfarfodydd

Flintshire Community Endowment Fund - Annual Report

Cyfarfod: 11/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 69)

69 Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint – Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        I gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol wrth gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yr adroddiad blynyddol ar waith a gyflawnwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth reoli Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ar ran y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd.

 

Cyflwynwyd yr Aelodau i Andrea Powell – Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Brif Weithredwr) Sefydliad Cymunedol yng Nghymru – a roddodd gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Sefydliad Cymunedol Cymru – y wybodaeth ddiweddaraf

·         Hanes a Throsolwg o’r Gronfa - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint / Cronfa’r Degwm Deiran

·         Perfformiad ariannol

·         Crynodeb o’r grantiau a ddyfarnwyd

·         Astudiaethau achos

·         Y dyfodol

 

Ers yr adroddiad blaenorol ac fel ymateb uniongyrchol i’r argyfwng cenedlaethol, roedd Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £5m i fwy na 1,000 o unigolion a sefydliadau ar draws Cymru.  Byddai gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru o ran y wybodaeth ar y tair cronfa sydd ar gael yn benodol i drigolion Sir y Fflint - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint, Cronfa’r Degwm Sir y Fflint a Chronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y byddai hyrwyddo’r wybodaeth gywir o gymorth i aelodau etholedig godi ymwybyddiaeth ymysg cymunedau. Darparodd Andrea Powell fanylion ar gymhwyster mewn perthynas ag ysgolion. Byddai’r manylion cyswllt a sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, rhoddwyd eglurhad ar y dull o reoli buddsoddiadau er mwyn gwneud yr elw mwyaf. Cafodd yr Aelodau hefyd eu hysbysu yngl?n â hyrwyddo cronfeydd drwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol amrywiol.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am gymorth i grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau, cadarnhaodd Andrea Powell fod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint wedi’i gynrychioli ar y panel grantiau. Er bod y swm cyfyngedig o gyllid yn heriol, nodwyd ffrydiau cyllid eraill lle y bo’n bosibl.

Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Joe Johnson ar gyllid ar gyfer yr Eglwys a grwpiau cymunedol yn sefydlu banciau bwyd yn ystod y pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau’n cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor.