Mater - cyfarfodydd

Economic Recovery

Cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 49)

49 Adferiad Economaidd pdf icon PDF 320 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar newidiadau mawr ac ar ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu sefydlu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Rheolwr Menter ac Adfywio.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn rhan o gyfres o bapurau a ddaeth i'r pwyllgor ynghylch Adferiad Economaidd a bod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r cynigion ar lefel ranbarthol ac o fewn Cynllun y Cyngor.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yr adroddiad yn egluro lle'r oedd y Cyngor ar hyn o bryd o ran yr economi yn Sir y Fflint, wedi tynnu sylw at risgiau posibl, y strwythurau llywodraethu sydd ar waith a'r rhaglen waith gyfredol i ymateb i'r risgiau hynny.  Darparodd wybodaeth ar y canlynol:-

 

·         Y sefyllfa ansicr o ran Brexit

·         Y gwaith a wneir gan Grant Thornton ar ran CLlLC, gan edrych yn benodol ar fasnach. Amlygodd nifer o risgiau sy'n benodol i Sir y Fflint gan fod ein heconomi yn seiliedig ar fasnach.

·         Nid oedd mwyafrif pencadlys cwmnïau wedi'u lleoli yn Sir y Fflint, a oedd yn rhoi Sir y Fflint mewn perygl gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud mewn man arall

·         Roedd gan Sir y Fflint lefel uchel o weithwyr sgiliau isel a oedd mewn perygl o golli swyddi

·         Sefyllfa Covid 19 - rydym yn dal yn ansicr gyda’r cynllun Ffyrlo yn dal i fodoli. Gallai guddio colledion swyddi posibl yn y dyfodol yn enwedig i bobl ifanc.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio aelodau at y diagram ar dudalen 36 a baratowyd gan Grant Thornton. Amlygodd y risgiau o ran sut roedd gweithgynhyrchu a chyfanwerthu yn dibynnu ar ganlyniadau Brexit a Covid.   Adroddodd ar nifer y grwpiau a sefydlwyd gyda LlC a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'r gwaith a wnaed i gynllunio'r broses adfer ar gyfer anghenion uniongyrchol ac i ail-lunio'r dyfodol.  Cafodd y blaenoriaethau eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Teimlai'r Cynghorydd Patrick Heesom fod hwn yn adroddiad pwysig iawn a'i fod yn ymwneud â diffyg cyfranogiad aelodau yn y gweithdrefnau. Cyfeiriodd at y strwythur ar dudalen 37 nad oedd ganddo fawr o le i gyfraniadau gan aelodau, yn enwedig gyda goblygiadau Brexit. Yna cyfeiriodd at gyfraniadau Adroddiad Hatch ac Adroddiad Grant Thornton a theimlai fod angen crynodeb o'r adroddiadau hynny ar aelodau er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth. Mewn ymateb, roedd y Rheolwr Menter ac Adfywio yn gobeithio y byddai'r wybodaeth yn darparu crynodeb o'r adroddiad hwnnw ac yn cadarnhau y cânt eu dosbarthu i aelodau pan fyddent ar gael.Byddai'n myfyrio ar y sylwadau ynghylch cynnwys aelodau ac roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod yn darparu rhywfaint o gyfranogiad aelodau i alluogi trafodaeth a dwyn swyddogion i gyfrif.Roedd yn gobeithio y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ond yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y materion ym mhorthladd Caergybi oherwydd faint o waith papur yr oedd yn rhaid i gwmnïau ei gwblhau. Arweiniodd hyn at ddargyfeirio danfoniadau i borthladdoedd Ewropeaidd ac yn dod i’r DU drwy Eire ac yna i Ogledd Iwerddon.  Gofynnodd sut oedd hyn yn effeithio ar gwmnïau a chludwyr yn Sir y Fflint. Gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 49