Mater - cyfarfodydd

Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2019/20

Cyfarfod: 11/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 63)

63 Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2019/20 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Grynodeb Archwilio Blynyddol 2019/20 (yr hen Adroddiad Gwella Blynyddol a Llythyr Archwilio Blynyddol) a oedd yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed eisoes yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad wedi dod i gasgliad cadarnhaol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Roedd mân gynigion newydd ar gyfer gwelliant a chynigion ar gyfer datblygiad yn codi o dri o’r adolygiadau.

 

Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi croesawu’r adroddiad a chafwyd trafodaeth am ddisgrifiad o strategaeth ariannol ‘risg uchel’ y Cyngor a oedd yn adlewyrchu ei amharodrwydd i beryglu gwasanaethau a dibynnu ar y Setliad Llywodraeth Leol i fantoli’r gyllideb.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan Grynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20.