Mater - cyfarfodydd
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 62)
62 Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) PDF 73 KB
Cyflwyno, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 62 PDF 844 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2021/22, y Cynllun Busnes HRA a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd fel y cymeradwywyd gan y Cabinet. Rhoddodd y Prif Swyddog a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad yn cwmpasu:
· Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru (LlC)
· Codiad Rhent Arfaethedig 2021/22;
· Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach
· Taliadau gwasanaeth
· Incwm arall
· Cynnig Buddsoddi i Arbed
· Pwysau ac Arbedion Effeithlonrwydd Arfaethedig
· Cronfeydd Wrth Gefn
· Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22
· Buddsoddiad Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhaglen Gyfalaf
· Datblygu Safonau Ansawdd Tai diwygiedig Cymru (SATC)
· Rhaglen Gyfalaf 2021/22<0}
· Arian Cyfalaf HRA 2021/22
Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhenti yn bodloni gofynion Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid. Byddai'r cynnydd graddol gohiriedig tuag at adennill costau llawn taliadau gwasanaeth yn helpu i ddiogelu tenantiaid yn ystod y sefyllfa argyfwng ac i ganiatáu gwaith pellach i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel. Dangosodd diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf fod 447 o eiddo wedi'u darparu hyd yma drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) a 148 o unedau eraill y tu allan i SHARP gan greu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai yn Sir y Fflint.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Dave Hughes a oedd yn canmol y modd y darperir gwasanaethau tai er gwaethaf heriau'r sefyllfa argyfwng. Dywedodd mai'r cynnydd arfaethedig mewn rhenti oedd yr isaf a osodwyd gan y Cyngor ers pum mlynedd ac y byddai'r Rhaglen Gyfalaf uchelgeisiol yn sicrhau buddsoddiad parhaus yn rhaglen adeiladu tai'r Cyngor.
Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar a dalodd deyrnged i waith y Prif Swyddog a'i dîm, a chefnogaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau, yr oedd yn Gadeirydd arno.
Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad ac yn benodol, darparu 595 o unedau tai a chynnal lefelau SATC i ddiwallu anghenion pobl leol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad ar effaith yr adolygiad o safleoedd garejys.
Hefyd yn siarad o blaid, roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn croesawu gwariant cyfalaf a gweithio mewn partneriaeth ar lety i'r digartref.
Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiwn y Cynghorydd Mike Peers ar y dull o ymdrin â cham nesaf cynlluniau tai SHARP. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth am y gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw ac ailfuddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf gan gynnwys symiau gohiriedig.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod argymhellion y Cabinet ar 16 Chwefror 2021 yn cael eu cymeradwyo:
(a) Bod y Cyngor yn cefnogi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 fel a nodir yn yr atodiadau gyda’r adroddiad;
(b) Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 0.68% (a hyd at £2);
(c) Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd o £0.20 yr wythnos ... view the full Cofnodion text for item 62