Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 9)

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (eitem 97)

97 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 9) pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 9.  Roedd yr adroddiad yn rhagdybio beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb fawr o newid. Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar Gyllid Grant at Argyfwng.

 

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o £0.372 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.102 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 8, sef £0.270 miliwn.

·         Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.787 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.641 miliwn yn is na’r gyllideb.

·         Rhagwelid mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £3.814 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa a ragwelid, y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers Mis 8, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, ceisiadau i ddwyn arian ymlaen a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Lefel Cronfa Wrth Gefn At Raid Cronfa'r Cyngor a ddygwyd ymlaen i 2020/21 yw £2.370 miliwn fel y manylir yn adroddiad sefyllfa derfynol 2019/20. Dyma’r swm sydd ar gael at ddibenion cyffredinol ar ôl neilltuo £3 miliwn ar gyfer Cyllid at Argyfwng. Gan ystyried hyn, a’r tanwariant presennol a ragwelir ar hyn o bryd, a dyraniadau a gytunwyd yn flaenorol, rhagwelid mai £1.787 miliwn fyddai’r balans ar y Gronfa Wrth Gefn at Raid ar 31 Mawrth 2021, fel y manylir yn Atodiad 4 yr adroddiad.  Roedd hyn gan dybio bod y tanwariant o £0.372 miliwn a ragwelir yn cynyddu’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn. 

 

Bydd swm o £2.377 miliwn yn weddill yn y gronfa £3 miliwn sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer argyfyngau, ar ôl caniatáu ar gyfer eitemau anghymwys y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd.  Serch hynny, mae’r Panel Grantiau yn parhau i ystyried nifer o eitemau daliannol a hawliadau am Golledion Incwm. Felly, amcangyfrifir y bydd y swm terfynol sy'n weddill rhwng £1.5 miliwn a £2 miliwn.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm a ragamcanwyd ar gyfer arian at raid Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.