Mater - cyfarfodydd

Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Update Report

Cyfarfod: 20/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 36)

36 Adroddiad Cynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu ar Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn ymwneud â chynnydd y Cyngor hyd yma o ran y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar gynlluniau tai eraill, sydd wedi gweithredu trwy weithdrefnau ar wahân i’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhaglenni Tai drosolwg o'r pwyntiau allweddol.  Roedd ffigyrau diweddaraf y Rhaglen yn dangos bod deg eiddo rhent fforddiadwy ychwanegol wedi cynyddu'r cyfanswm i 93. Roedd 149 o gynlluniau rhent cymdeithasol wedi eu gwireddu. Rhagwelwyd y byddai gwaith ar 71 o unedau rhent cymdeithasol ychwanegol yn cychwyn ym mis Ebrill/Mai 2021. Disgwylir cadarnhad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru am y cais grant llwyddiannus am nawdd o’r Gronfa Rhyddhau Tir.  Yna gellir bwrw ymlaen â chynllun tai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar dir sydd eisoes yn eiddo i'r Cyngor.

 

Amcangyfrifwyd bod y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, yn ogystal â chynlluniau eraill, wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod oddeutu 600 eiddo ar gael hyd yma.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, cafwyd gwybodaeth gan y Rheolwr Rhaglenni Tai am waith ymchwil o ran dichonoldeb ar safle cyn ddepo Canton. Nododd y bydd yn trosglwyddo’r pryderon i Edwards Homes ynghylch hysbysebu eiddo newydd a oedd wedi’u lleoli yng Nghei Connah.

 

Diolchodd y Cynghorydd Davies i staff yr Adran Dai am eu holl waith.

 

Cynigiwyd i dderbyn yr argymhellion gan y Cynghorydd Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dulliau effeithiol o ddarparu cartrefi rhent cymdeithasol a fforddiadwy newydd. Mae hyn yn cynnwys Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn gefnogol i ddyrannu cyllideb flynyddol o £121,000 am yr eildro, ar gyfer gwaith ymchwil a dichonoldeb sy’n rhan o’r Rhaglen ac er mwyn gwireddu dulliau cyflenwi newydd.