Mater - cyfarfodydd

External Regulation Assurance

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 41)

41 Sicrwydd Rheoleiddio Allanol pdf icon PDF 90 KB

Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2019/20 ynghyd ag ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2019/20 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig, a bod y camau gweithredu wedi eu cyflawni mewn ymateb i’r argymhellion.

 

Er nad oedd gofyn am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol, gwelwyd dull y Cyngor o ymateb a chynnwys gwaith lleol fel arfer dda. Roedd y protocol adrodd a atodwyd at yr adroddiad yn nodi’r trefniadau i ymatebion ar gyfer gwaith lleol penodol gael ei archwilio ac i ddarparu sicrwydd ar agweddau llywodraethu.

 

Dywedodd Gwilym Bury fod pob adroddiad wedi ei gynnwys yn yr Adroddiad Archwilio Blynyddol a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Ceisidd Sally Ellis sicrwydd fod trefniadau mewn lle i fonitro cynnydd ar gamau gweithredu sy’n deillio o’r adroddiadau, gan nad oedd hyn yn glir bob amser. Siaradodd y Prif Weithredwr am atebolrwydd gan y Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet perthnasol. Tra roedd y Cyngor yn adrodd yn ffurfiol ar adroddiadau lleol, nid oedd gofyn gwneud hynny ar gyfer adroddiadau cenedlaethol, ond roedd Pwyllgorau Archwilio a Throsolwg yn gallu rhoi eitemau o ddiddordeb ar eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Archwilio a Throsolwg er mwyn tynnu sylw at unrhyw feysydd diddordeb ar gyfer blaen-gynllunio adroddiadau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y cyfarfod cyswllt blynyddol gyda’r Cadeiryddion Archwilio a Throsolwg – a oedd wedi ei oedi yn ystod y sefyllfa argyfwng – yn cael ei aildrefnu gan fod hyn yn dechneg ddefnyddiol i godi ymwybyddiaeth o bynciau o ddiddordeb.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Andy Dunbobbin a Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd dros ymateb y Cyngor i ddarnau o waith rheoleiddio allanol.