Mater - cyfarfodydd
Local Government & Elections (Wales) Bill
Cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 22)
22 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) PDF 126 KB
Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Bil Llywodraeth Ledol ac Etholiadau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru) i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu. Ers cyhoeddi'r adroddiad, roedd y Bil wedi dod yn Ddeddf, ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol yn ddiweddar.
Crynhodd y Prif Swyddog y newidiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y Pwyllgor Archwilio; sef y cylch gorchwyl diwygiedig a fyddai’n dod i rym eleni a newidiadau i’r aelodaeth i’w gweithredu o 2022. Cafodd y cynigion eu cymeradwyo gan y Cyngor ar 26 Ionawr.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynnig y Cyngor i gymryd rhan yn yr hunanasesiad peilot gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn adlewyrchu ei berfformiad cryf yn yr adroddiadau rheoliadol.
Mewn ymateb i Sally Ellis yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyfforddiant i alluogi'r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau newydd, sicrhaodd y Prif Swyddog y byddai ymgysylltiad â'r Pwyllgor drwy gydol y broses o gyflwyno'r newidiadau.
Cododd y Cynghorydd Johnson bryderon ynghylch cynrychiolaeth Aelodau etholedig ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio newydd. Rhannwyd ei bryderon gan y Cynghorydd Roberts a hefyd gan y Cynghorydd Dunbobbin a gynigiodd y dylid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon ynghylch y gofyniad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio newydd benodi aelodau lleyg yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.
Yn ystod y ddadl, cydnabu'r Cadeirydd a'r Aelodau gyfraniadau gwerthfawr aelodau lleyg cyfredol ar y Pwyllgor ond mynegwyd pryderon ynghylch rôl Aelodau etholedig. Dywedodd y Prif Swyddog, er y gallai'r Pwyllgor wneud sylwadau, y byddai'r Ddeddf yn aros yr un fath a bod y penderfyniad yn adlewyrchu'r gofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd er gwaethaf unrhyw bryderon (fel y'i datryswyd pan ystyriwyd yr eitem gan y Cyngor Sir).
Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion diwygiedig eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad briffio;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi goblygiadau cyfansoddiadol a goblygiadau eraill y Ddeddf, ac yn cefnogi cynlluniau mewnol ar gyfer eu gweithredu yn ôl yr angen; a
(c) Bod swyddogion yn cysylltu â'r Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch y gofyniad i benodi aelodau lleyg yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
DS Ar ôl y cyfarfod, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai Is-gadeirydd y Pwyllgor fod yn aelod etholedig. Felly, cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen gweithredu ar benderfyniad (c).