Mater - cyfarfodydd

Council Tax setting for 2021/22

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 61)

61 Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 99 KB

Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2021-22 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2021/22 fel rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Gofynnwyd i'r Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Fel y soniwyd yn yr eitem flaenorol, tri praesept ar wahân oedd lefel gyffredinol taliadau Treth y Cyngor yn erbyn pob eiddo. Roedd y cynnydd o 3.95% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau o ran fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid llywodraeth ganolog a'r Grant Cynnal Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac yn cynnal graddfa a chymhlethdod y galw am wasanaethau. Roedd y cyfanswm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £90,678,757; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £19,868,694; a phraesept gyfunol o £3,110,430  ar draws 34 Cyngor Tref a Chymuned.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a'u heilio gan y Cynghorydd Glyn Banks a ganmolodd swyddogion yn y Tîm Refeniw am eu gwaith.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Banks ar y cyfle i ddiolch i drigolion am dalu eu Treth y Cyngor ac ailadroddodd y cymorth sydd ar gael i'r rhai a oedd yn cael trafferth talu.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei diolch hefyd i'r Tîm Refeniw am eu cefnogaeth i breswylwyr a busnesau drwy gydol y sefyllfa argyfwng. Cymeradwywyd hyn gan y Prif Weithredwr a gydnabu rôl y Timau Refeniw a Budd-daliadau yn ystod y cyfnod.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Peers, rhoddodd y Rheolwr Refeniw eglurhad ar yr eithriadau a gymhwyswyd i anheddau gwag hirdymor a byddai'n darparu ymateb ar wahân ar swm treth y cyngor a gynhyrchir o gynllun premiymau Treth y Cyngor.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Treth y Cyngor 2021-22 yn cael ei gosod fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

 

 (b)      Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â darparu disgownt yn lefel taliadau Treth y Cyngor 2021/22 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Hefyd, lle nad yw eithriadau'n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% uwchlaw cyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor; a

 

 (c)      Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu talu.