Mater - cyfarfodydd

Flintshire Local Development Plan (LDP) Examination in Public Delegated Authority for Officers

Cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 52)

52 Archwiliad Cyhoeddus Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint - Awdurdod Dirprwyedig i Swyddogion pdf icon PDF 102 KB

Ceisio safbwyntiau’r Aelodau ar, a chytuno ar gynllun dirprwyo arfaethedig er mwyn i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau yn sgil archwiliad cadernid o unrhyw agwedd o’r CDLl yn ystod sesiynau gwrandawiad Archwiliad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i geisio barn Aelodau ar, a chytuno ar gynllun dirprwyo arfaethedig er mwyn i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau yn sgil archwiliad cadernid o unrhyw agwedd o’r CDLl yn ystod y sesiynau gwrandawiad a drefnwyd. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r archwiliad o’r CDLl yn dechrau ar 8 Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfarfod cyn-gwrandawiad ar 12 Ionawr ac roedd disgwyl y byddai amserlen ddrafft ar gyfer sesiynau’r gwrandawiad yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon ar wefan y CDLl (darperir y ddolen yn yr adroddiad).  

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ystyried bod y CDLl fel y cyflwynwyd yn gynllun cadarn, fodd bynnag, fe allai Arolygwyr gynnig newidiadau yn ystod y gwrandawiad. Eglurodd mai pwrpas y cynllun dirprwyo oedd i ganiatáu i swyddogion gytuno, mewn egwyddor, i’r Arolygydd wneud newidiadau i’r CDLl yn ystod sesiynau’r gwrandawiad mewn ymgynghoriad ag Aelodau, yn dibynnu ar natur a chwmpas y newidiadau a gynigir. Cynigiwyd dirprwyo newidiadau o natur ffeithiol neu deipograffyddol i’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth (neu, yn ei absenoldeb neu ei anallu i weithredu neu er hwylustod gweithredol, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio) ond byddai newidiadau mwy arwyddocaol, megis dileu dyraniad neu gyflwyno safle neu safleoedd newydd yn gofyn am ymgynghoriad gydag Aelodau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru yn argymell cymeradwyo cynllun dirprwyo o’r fath er mwyn i’r archwiliad allu gweithredu’n effeithlon. 

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw at baragraffau 1.05 a 1.06 yn yr adroddiad a’r wybodaeth yn Nhabl 1 sy’n nodi’r cynllun dirprwyo arfaethedig.   Dywedodd fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi ystyried y cynigion yn y cynllun dirprwyo drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd, ac yn dilyn diwygio’r cynllun roedd wedi’i argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.  Sicrhaodd yr Aelodau y byddai unrhyw newidiadau a oedd yn deillio o’r broses archwilio (o’r enw ‘Newidiadau Materion yn Codi’) yn cael eu cyfuno mewn dogfen ac yn destun proses ymgynghori gyhoeddus ar wahân dros gyfnod o 6 wythnos pan oedd sesiynau’r gwrandawiad wedi dod i ben. Rhoddodd sicrwydd y byddai digon o gyfle i Aelodau a’r cyhoedd ymateb i unrhyw newid arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol hwnnw. Argymhellodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo, fel y nodwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad, yn cael ei fabwysiadau i roi fframwaith i swyddogion weithredu ar Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau i’r Cynllun.

 

Cynigodd y Cynghorydd Chris Bithell gymeradwyo’r argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gan siarad o blaid yr argymhellion, dywedodd eto fod y Cynllun yn gadarn fel ag yr oedd. Cyfeiriodd eto at y cynigion a’r trefniadau ar gyfer awdurdod dirprwyedig fel y manylwyd yn Nhabl 1 a dywedodd y byddai defnyddio’r cynllun yn ddewis olaf (gan nad oedd y Cyngor yn ceisio unrhyw newidiadau), os nad oedd unrhyw agwedd o’r cynllun neu dystiolaeth ategol, am ba bynnag reswm, yn gadarn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 52