Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Council Response to Welsh Government Transport Strategy Consultation

Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (eitem 80)

80 Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas drosolwg o gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ac ymateb arfaethedig y Cyngor i'r broses ymgynghori ffurfiol a ddaeth i ben ar 25 Ionawr 2021.

 

            Roedd Strategaeth Drafnidiaeth drosfwaol Llywodraeth Cymru yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru yn y dyfodol a byddai gweithredu'r Strategaeth ddiwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod yng Nghymru adolygu eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd er mwyn adlewyrchu cyfeiriad dymunol Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth dros y 5 mlynedd nesaf. Byddai hyn yn ei dro yn cychwyn diwygio Cynllun Trafnidiaeth Integredig (ITP) y Cyngor ei hun, a fyddai'n diffinio dyheadau'r Cyngor ei hun ar gyfer trafnidiaeth dros yr un cyfnod.

 

            Ar ôl adolygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, roedd yn amlwg bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thrafnidiaeth wedi esblygu i flaenoriaethu dulliau trafnidiaeth gwyrddach a mwy cynaliadwy gyda phwyslais ar Deithio Llesol a Thrafnidiaeth Gyhoeddus.  Cymeradwywyd y dull hwn yn gryf gan ITP y Cyngor ei hun a oedd yn anelu at ddarparu atebion trafnidiaeth gynaliadwy hirdymor drwy integreiddio pob math o drafnidiaeth yn llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru – 'Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru' yn cael ei nodi; a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo ymateb y Cyngor i'r broses ymgynghori ffurfiol, gan gynnwys sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd o'u cyfarfod ym mis Ionawr.