Mater - cyfarfodydd

Community Asset Transfer Update

Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 43)

43 Diweddariad ar drosglwyddiad Asedau Cymunedol pdf icon PDF 98 KB

Rhoi diweddariad ar effaith y sefyllfa argyfyngus ar Gynllun Busnes Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) a rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed gyda’r ddau Drosglwyddiad Asedau Cymunedol mwyaf a sut mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw.  Cafodd Cambria Aquatics ei drosglwyddo yn 2016 a dechreuodd Canolfan Hamdden Treffynnon fasnachu yn 2017. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl ar fanteision hyn i’r Cyngor, yr effaith ariannol arwyddocaol oherwydd y pandemig, ynghyd â’r camau rhagofalus a gymerwyd er mwyn ailagor yn ddiogel.  Rhoddodd wybodaeth hefyd am y cynlluniau cymorth grant a’r cyfleoedd ffyrlo.  Talodd deyrnged i’r ffordd mae’r sefydliadau hyn wedi cael eu rheoli a bod ganddyn nhw gefnogaeth gref iawn gan gymunedau a theimlai’n hyderus y byddai hyn yn parhau ar ôl y pandemig.

               

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at yr anawsterau digynsail mae’r ddau sefydliad wedi eu hwynebu ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu atyn nhw i ganmol gwaith y rheolwyr a’r gwirfoddolwyr am y ffordd maen nhw wedi ymdrin â’r sefyllfa.  Cytunodd yr Hwylusydd i anfon llythyr at y ddau sefydliad ar ran y Pwyllgor.

 

Ymdriniwyd â’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ar wahân.  Cafodd yr argymhelliad cyntaf a’r ail un eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White a Mrs. Rebecca Stark.  Cafodd y trydydd argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Gladys Healey.  Ni wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones gymryd rhan yn y bleidlais ar y trydydd argymhelliad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Nodi cynnydd y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol;

 (b)    Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Cambrian Aquatics yn 2021/22; a

 (c)    Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon yn 2021/22.