Mater - cyfarfodydd

Self-Evaluation of Education Services 2019 – 2021

Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 44)

44 Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg pdf icon PDF 89 KB

Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar berfformiad hollgynhwysfawr gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad hunanwerthuso ac esboniodd, oherwydd y pandemig, nad yw’r wybodaeth wedi’i strwythuro yn y ffordd arferol yn erbyn Fframwaith Estyn ar gyfer archwilio Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, sydd wedi ei ohirio dros dro ynghyd â chasgliadau data allweddol gan Lywodraeth Cymru.  Cyfeiriodd at adroddiadau blaenorol i gyfarfodydd a fynychwyd gan gydweithwyr o GwE ac Estyn, gydag Adolygiad Thematig y Gwasanaethau Rhanbarthol a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf, ac ynghlwm â’r adroddiad roedd y llythyr a anfonwyd at Gyngor Sir y Fflint gan Estyn a oedd yn crynhoi asesiad cadarnhaol o’r gwaith a wnaed mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn.  Darparwyd gwybodaeth hefyd am y camau nesaf a’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod fformat yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn er mwyn darparu gwybodaeth am yr holl feysydd gwasanaeth.  Gwahoddodd gwestiynau ar bob un o’r meysydd gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gwasanaeth Cynhwysiant a Datblygu

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y paragraff olaf ar dudalen 54 a gofynnodd pam nad yw’r hyfforddiant ar gael i bawb, gan gofio ei fod nawr yn gynnig ar-lein heb gyfyngiadau ymarferol.  Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfeirio hyn at yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygu) i roi ymateb. 

 

            Gofynnodd Mrs Stark a ystyriwyd darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cwnsela a seicoleg ar gyfer pobl ifanc wrth symud ymlaen ac a yw ysgolion yn gwybod am ddisgyblion sydd eisoes angen y gefnogaeth honno.  Wrth ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Comisiynydd Plant wedi tynnu sylw at hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela i gefnogi gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y gorffennol ac y byddai hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.  Mae rhaglen adfer gyfannol gref ar waith gan gydweithwyr yn y byd Iechyd a CAMMS a Gwasanaethau Plant er mwyn sicrhau model gofal estynedig i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc hyn.  Ychwanegodd fod cyllid ychwanegol ar gael y llynedd i gefnogi iechyd a lles emosiynol pobl ifanc.

 

Gwasanaeth Cyfle Cynnar

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws.  Wrth ymateb, esboniodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi atal y cynnig gofal plant dros dro a chreu Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws ac, yn debyg i ysgolion a fu’n cynnig gofal plant i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn er mwyn cynnig yr un gefnogaeth i weithwyr allweddol.  Cafodd ei reoli gan y tîm Gofal Plant yn adran y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

            Gofynnodd Mrs Stark a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld effaith y bwlch mewn addysg ar gyfer dysgwyr ifanc yn y blynyddoedd cynnar ac a fyddai hyn yn cael ei ystyried wrth fesur eu perfformiad.   Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei drafod a chyfeiriodd at Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed sy’n edrych ar y plentyn a’u  ...  view the full Cofnodion text for item 44