Mater - cyfarfodydd

Review of the Corporate Complaints Policy

Cyfarfod: 11/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 71)

71 Adolygu’r Polisi Cwynion Corfforaethol pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad y Polisi Cwynion Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y Polisi Pryderon a Chwynion newydd ar gyfer y Cyngor, yn seiliedig ar ddull trin cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid bod newidiadau i’r Polisi Cwynion yn gwneud defnydd gwell o dueddiadau gydag amserlen adrodd wedi'i sefydlu i rannu data perfformiad a nodi newidiadau i wella darpariaeth gwasanaeth. Rhannwyd Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid newydd i ddarparu canllawiau clir ar reoli ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid i ddiogelu’r gweithlu. Bydd y ddau bolisi yn cael eu cyhoeddi a’u gweithredu o 1 Ebrill 2021.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mullin y polisïau a fyddai’n rhoi canllawiau clir i gwsmeriaid ac yn diogelu gweithwyr.

 

O ran yr amserlen adrodd ar berfformiad, cynigodd y Cynghorydd Richard Jones bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor bob chwe mis – yn unol â’r Cabinet a’r Pwyllgor Archwilio – yn hytrach nag yn flynyddol. Yn unol â’r cais, byddai’r canllawiau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, darparodd y swyddogion eglurhad ar y broses ar gyfer delio â ch?yn pan mae swyddog yn methu ag ymateb i ymholiad.

 Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Jones gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

 (a)      Cefnogi gweithrediad y Polisi Pryderon a Chwynion o 1 Ebrill 2021;

 

 (b)      Cefnogi gweithrediad y Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid o 1 Ebrill 2021;

 

 (c)      Nodi’r amserlen adrodd ar berfformiad fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.15 yr adroddiad; a

 

 (ch)    Derbyn adroddiadau bob chwe mis yn hytrach nag yn flynyddol fel nodwyd yn yr adroddiad.