Mater - cyfarfodydd

Disabled Facilities Grant (DFG) Policy

Cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 17)

17 Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i wella’r gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Budd-Daliadau y polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd. Fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ym mis Mehefin 2018, nodwyd bod angen cynnal adolygiad o’r polisi presennol er mwyn sicrhau bod y broses a’r manylion yn fwy clir a haws i’w deall.  

 

Amlinellodd y Rheolwr Budd-Daliadau newidiadau i’r polisi newydd ac eglurodd fod y broses wedi’i symleiddio’n fawr ar gyfer gwneud cais am grant £36,000 ar sail cyfnod 5 mlynedd o argymhellion gan arbenigwyr fel Iechyd Galwedigaethol. Ychwanegodd nad oedd prawf modd ar gyfer plant, ac nad oedd prawf modd ar gyfer unrhyw waith oedd i’w wneud dan £10,000.  Roeddent hefyd wedi dileu’r gofyniad ecwiti ar gyfer grant atodol, ac roedd grantiau adleoli o hyd at £20,000 ar gael o hyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau wrth y Pwyllgor fod amserlenni Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer addasu wedi’u mabwysiadu a lle’r oedd y gwaith a wnaed wedi’i gofnodi fesul nifer dyddiau o’r blaen, byddai’n cael ei drefnu yn unol â LlC bellach, a byddai’r geiriad yn newid i fisoedd/wythnosau.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y grant yn aros ar £36,000.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd.