Mater - cyfarfodydd
Homelessness
Cyfarfod: 10/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 49)
49 Adroddiad Diweddaru Digartrefedd PDF 428 KB
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir i atal digartrefedd ar draws Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud i atal digartrefedd ledled Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at effaith pandemig Covid. Dywedodd bod yna dri cham i’r ymateb i ddigartrefedd a bod y Cyngor ar hyn o bryd ar gam 3, sef y symud i’r ‘Normal Newydd’ a dywedodd bod yna rai agweddau cadarnhaol a heriau o’n blaenau. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:
· Cam 1 Ymateb
· Cam 2 Cynllunio
· Cam 2 Arian Cyfalaf
· Cam 3 Y Normal Newydd
· Galw am wasanaethau
· Ymateb y tu allan i oriau
· Tai mewn achos brys
· Rhain sy’n cysgu ar y strydoedd
· Cefnogaeth tai
· Cofrestr tai
· Yr Holl dai cymdeithasol a osodir
· 50% enwebiadau Covid
· Teithiau pobl
· Hyb digartrefedd
· Gwasanaethau cymorth newydd
· Edrych i’r dyfodol
Diolchodd y cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei adroddiad a’i gyflwyniad llawn gwybodaeth a siaradodd yn gefnogol i’r ymrwymiad brwdfrydig a llwyddiant y gwaith sydd wedi cael ei wneud er mwyn mynd i’r afael â phroblem digartrefedd yn y Sir.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Rush cytunodd y rheolwr Gwasanaeth i rannu’r rhif ffôn digartrefedd y tu allan i oriau i Aelodau yn dilyn cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd yna gynlluniau i ymestyn cyfleusterau a thai i bobl ddigartref i ardaloedd eraill yn y Sir yn ychwanegol i’r ardaloedd yr adroddwyd arnynt eisoes. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod angen cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a llety rhent dros dro. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y strategaeth hirdymor ac at waith ar y rhaglen SHARP er mwyn adeiladu capasiti a hefyd er mwyn lleihau rhestrau aros am dai.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ron Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
(A) Nodi’r adroddiad; a
(B) Bod y gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gwasanaeth yn parhau i gael ei gefnogi.