Mater - cyfarfodydd

Planning Enforcement

Cyfarfod: 09/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 42)

42 Gorfodaeth Cynllunio pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac esboniodd fod yr adroddiad yn nodi strwythur y tîm Gorfodi Cynllunio a lle mae’n rhan o’r gwasanaeth Rheoli Datblygu a’r portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a‘r Economi. Roedd y Polisi Gorfodi Cynllunio mabwysiedig ynghlwm i’r adroddiad ac roedd yn nodi sut y cafodd ei weithredu a pherfformiad y Cyngor yn erbyn dangosyddion Gorfodi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

 

Soniodd y Prif Swyddog am flaenoriaethau diweddar ar gyfer darparu gwasanaethau o fewn portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi mewn ymateb i bandemig Covid-19. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i symud y Cynllun Datblygu Lleol ymlaen i fodloni’r terfynau amser ar gyfer Archwilio. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd Rheoli Datblygu, a oedd yn cynnwys y gwasanaeth Gorfodi Cynllunio, wedi’i nodi fel blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor. Amlinellodd yr adroddiad oblygiadau pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau, y camau lliniaru a gymerwyd, a chamau gweithredu pellach a gynigir.

 

Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am yr angen am gyfathrebu gwell mewn ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan yr Aelodau. Wrth gydnabod yr angen am rywfaint o welliant dywedodd y Prif Swyddog fod camau wedi eu cymryd i fynd i’r afael â hyn a'r angen i Aelodau’r Cabinet ac Arweinwyr Grwpiau ddwysáu materion ar ran Aelodau pe na bai ymateb wedi’i dderbyn o fewn yr amserlenni a oedd mewn lle. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at y mesurau lliniaru a’r gwelliannau i wasanaeth yn y dyfodol yn ystod 2021 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin a oedd Gorfodi Cynllunio wedi’i staffio’n llawn. Mynegodd bryder hefyd ynghylch nifer yr achosion a gofnodwyd gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol oedd yn aros i gael eu herlyn a gofynnodd am esboniad o’r ôl-groniad o waith. Esboniodd y Rheolwr Datblygu fod gan y Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio 14 o swyddogion parhaol wedi eu rhannu’n ddau dîm, un yn rheoli’r Gogledd a’r llall yn rheoli De’r Sir ac adroddodd ar drefniadau llwyth gwaith ar gyfer y gwasanaeth. Gan gyfeirio at yr achosion sy’n aros i gael eu herlyn gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol, eglurodd y Prif Swyddog fod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn gweithio ar y cyd gyda Gwasanaethau eraill a ddarperir naill ai o fewn y Cyngor, awdurdodau lleol eraill, neu gyrff statudol allanol a oedd yn effeithio ar gynnydd. Soniodd hefyd am y galw cynyddol ar y Gwasanaethau Cyfreithiol oherwydd prosesau gorfodi gweithredol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Derek Butler sylw at adran 1.21 o’r adroddiad a soniodd am yr amser a dreuliwyd yn mynd i’r afael ag ymholiadau a chwynion diangen pan nad oedd toriad wedi’i gyflawni.

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell am y pwysau ychwanegol ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig a phwysleisiodd fod y gwasanaethau a ddarperir, yn wahanol i rai awdurdodau lleol eraill, wedi parhau er gwaethaf effaith lleihad mewn staffio oherwydd salwch neu brofedigaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at system swyddfa gefn newydd i’w darparu yn y dyfodol agos a fyddai’n galluogi Aelodau a thrigolion i gael gwell gwybodaeth am faterion gorfodi a’r camau a gymerwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 42