Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 48)
Pwrpas: I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2020.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
(i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020.
Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 8 Rhagfyr 2020.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Sharps at ei sylwadau ar dudalen 17 yngl?n ag ymholiad gan gwmni a fyddai’n rhyddhau derbyniad cyfalaf ar gyfer y Cyngor a gofynnodd a oedd mwy o wybodaeth ar gael am hyn. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod cyswllt wedi’i wneud gyda’r cwmni dan sylw ac roedd yr ymholiad ar agor eto.
Cafodd y cofnodion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Gladys Healey a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo'r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir.