Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Council Response to WG Transport Strategy Consultation

Cyfarfod: 12/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 34)

34 Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 123 KB

Ceisio sylwadau Craffu am ymateb Cyngor Sir y Fflint i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth adroddiad ar ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod y Strategaeth Drafnidiaeth wedi dod i ben a bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth ddrafft newydd ‘Llwybr – Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Newydd ar gyfer Cymru gyda chais am sylwadau/awgrymiadau gan unrhyw un â diddordeb erbyn 25 Ionawr 2021.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru tra hefyd yn rhannu manylion ymateb arfaethedig y Cyngor i’r broses ymgynghori ffurfiol ar gyfer sylw ac ychwanegiadau gan y Pwyllgor Craffu. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd yn dilyn adolygiad o’r strategaeth ddrafft newydd roedd y Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad wedi’i llenwi ac wedi’i hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth ac ar gyfer sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y Cyd Gynllun Trafnidiaeth Lleol (JLTP) a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol os byddai darpariaeth bresennol y JLTP ar gael i’r Aelodau. Hefyd cyfeiriodd at baragraff 1.09 yn yr adroddiad a mabwysiadu Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig a dywedodd nad oedd y system drafnidiaeth bresennol yng Ngogledd Cymru yn addas i’r diben. Mynegodd nifer o bryderon am y mater o goridorau trafnidiaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a fyddai’n paratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gofynnodd am eglurhad yngl?n â rôl yr Awdurdod ar hwn.    Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai’n bosibl anfon copi gwag o Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad ato er mwyn iddo allu cyflwyno ei sylwadau a’i awgrymiadau ei hun ar yr ymgynghoriad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) i’r pryderon lleol a strategol a fynegwyd gan y Cynghorydd Heesom. Rhoddodd eglurhad pellach am y JLTP, rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a’r rhwydwaith Cefnffordd. Hefyd rhoddodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â’r llwybr Coch. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd bod yna gynrychiolaeth dda o’r Awdurdod ar y Grwpiau Rhwydwaith Trafnidiaeth Gogledd Cymru a dywedodd fod y gwaith a wnaed gan Sir y Fflint wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel model ar gyfer arfer da ar draws Gogledd Cymru.   

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y Cynghorydd Heesom yn ymwneud ag ardal Doc Mostyn, eglurodd y Prif Swyddog fod cynllun trafnidiaeth yr Awdurdod wedi’i ymestyn i gynnwys pob ardal yn Sir y Fflint. Dywedodd y derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i edrych ar holl gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd y Sir oedd yn cynnwys Dociau Mostyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am y wybodaeth ddiweddaraf ar y partneriaethau Bws Ansawdd, trefniadau cynnal a chadw ac arwyddion ar Bont Sir y Fflint, a’r Llwybr Coch. Yn ei ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn cynnig fod Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y rôl ar draws Cymru i gyflwyno partneriaethau o ansawdd ar rwydweithiau craidd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar gyfer ystyriaeth.  Dywedodd y Prif Swyddog y gofynnir am eglurhad ar  ...  view the full Cofnodion text for item 34