Mater - cyfarfodydd

Fleet Electrification

Cyfarfod: 09/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 41)

41 Trydaneiddio’r fflyd pdf icon PDF 126 KB

Ystyried y cynigion ar gyfer trydaneiddio’r fflyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i ystyried y cynigion ar gyfer trydaneiddio’r fflyd. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn nodi uchelgais y gwasanaeth ac yn nodi’r prosiectau amrywiol sy’n cael eu datblygu i gyflwyno cerbydau allyriadau isel i’r fflyd a datblygu seilwaith i gefnogi’r defnydd hwnnw.

 

Gan gyfeirio at ddatblygu mannau gwefru cerbydau trydan (EV) ar draws y Sir, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i archwilio manteision mabwysiadu dull rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau cysondeb i ddefnyddwyr y rhwydwaith gwefru EV yng Nghymru. Dywedodd fod 17 safle cychwynnol ar gyfer gosod mannau gwefru cyflym y gallai’r cyhoedd eu defnyddio wedi eu nodi ar draws y Sir.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Owen Thomas a Dennis Hutchinson gwestiynau ynghylch sut y byddai cerbydau trydan yn cael eu gwefru, y trefniadau ar gyfer gwefru cerbydau trydan os cânt eu cadw yng nghartrefi cyflogeion, a chyfyngiadau parcio oddi ar y stryd. Esboniodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd y byddai mannau gwefru ar gael mewn depos a dywedodd pan fyddai cyflogeion ar ddyletswydd y byddai mannau gwefru y tu allan i oriau yn cael eu darparu o amgylch y Sir. Dywedodd y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur ynghylch sut i hwyluso mannau gwefru yng nghartrefi cyflogeion. Estynnodd y Prif Swyddog wahoddiad i’r Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd i gyflwyno’r adroddiad.

 

Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y galw domestig a masnachol am gerbydau trydan yn cynyddu a soniodd am y datblygiadau sylweddol mewn technoleg. Roedd y cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn cael eu harchwilio a nododd bysiau, cerbydau casglu sbwriel, ac ysgubwyr ffyrdd fel esiamplau, ac roedd y seilwaith i gefnogi hyn yn cael ei ymchwilio. Dywedodd fod y Cyngor hefyd wedi cysylltu â’i gontractwyr Fflyd i adolygu defnydd a theithiau ei fflyd gerbydau ei hun er mwyn nodi’r lleoliadau gorau posibl ar gyfer ‘canolfannau gwefru’ i gefnogi darparu gwasanaethau. Roedd y contractwr yn adolygu’r data olrhain i nodi cerbydau a theithiau sy’n gweddu orau i gerbydau trydan a’r seilwaith gwefru sydd ei angen i gefnogi symudiadau cerbydau sydd mewn defnydd dyddiol gan wasanaethau unigol. Soniodd hefyd am yr angen i ystyried gallu’r grid lleol i gefnogi twf o’r fath (yn benodol ar adegau penodol o’r dydd).

 

Dywedodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y Cyngor yn cynnal trafodaethau gyda’i gyflenwyr Fflyd presennol ynghylch terfyn y contract presennol yn 2023. Roedd dyheadau’r Cyngor a’r cyflenwr yn cael eu trafod i sicrhau bod pob agwedd ar dechnolegau newydd yn cael ei hystyried a’i chynnwys mewn unrhyw estyniad posibl i’r contract i fodloni’r newid mewn caffael y byddai symud i fflyd EV yn ei olygu.

 

Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn dilyn cais llwyddiannus i gyflwyno nifer cyfyngedig o fannau gwefru EV ar safle Standard Yard, Bwcle. Esboniodd y byddai ehangu’r safle yn y dyfodol yn cynnig cyfle i’r Cyngor ddatblygu ‘Canolfan Trafnidiaeth Gynaliadwy’ ar y safle a fyddai’n cefnogi’r symudiad i  ...  view the full Cofnodion text for item 41