Mater - cyfarfodydd

Acquisition and development of In House Residential Care provision for Children

Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (eitem 88)

Caffael a datblygu darpariaeth Gofal Preswyl Mewnol i Blant

Pwrpas:        Cefnogi prynu tri eiddo yn Yr Wyddgrug er mwyn gallu datblygu Cartref Gofal Preswyl i Blant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn gofyn am gefnogaeth i brynu tri eiddo er mwyn gallu datblygu Cartref Gofal Preswyl i Blant. Roedd gr?p llywio iechyd a gofal cymdeithasol integredig rhwng Sir y Fflint, y bwrdd iechyd lleol a Wrecsam wedi datblygu cynigion ar gyfer dull trawsnewidiol o sefydlu darpariaeth plant preswyl leol. 

 

Gallai'r safle a nodwyd ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth ac elwa o fod yn agos at amwynderau a gwasanaethau lleol. Mae gan yr holl eiddo briodoldebau cartrefol a byddent yn cael eu hystyried yn amgylchedd cartref ar gyfer plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed y Cyngor. Y bwriad oedd sefydlu darpariaeth asesu a chefnogi preswyl tymor byr i gynnal asesiadau dwys a gwaith ymyrraeth therapiwtig i gefnogi teuluoedd neu gomisiynu lleoliadau maethu/preswyl lleol tymor hwy.

 

            Siaradodd yr Aelodau o blaid yr adroddiad a rhoddwyd sylwadau ar y cynigion arloesol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cefnogi prynu tri eiddo, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, i alluogi datblygu Cartrefi Gofal Preswyl i Blant.