Mater - cyfarfodydd

Childcare Offer Programme

Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (eitem 87)

Rhaglen Cynnig Gofal Plant

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i lunio contract ar gyfer cam adeiladu rhaglen y Cynnig Gofal Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ymrwymo i gontract ar gyfer cam adeiladu'r Rhaglen Cynnig Gofal Plant.

 

            Darparwyd cynnig masnachol ar gyfer y rhaglen a oedd yn cynnig sicrwydd cost. Profwyd goblygiadau refeniw drwy gyflwyno achos busnes ysgol a dim ond y prosiectau a oedd wedi dangos eu bod yn hyfyw ac yn gynaliadwy oedd wedi'u dewis i fwrw ymlaen â nhw.

 

            Roedd y dyraniad cyllid i'r prosiect arfaethedig yn Ysgol Brynford wedi cynyddu. Nid oedd yn bosibl defnyddio balansau o ffrydiau ariannu eraill ac nid oedd yn ymarferol lleihau cwmpas y prosiect a gofynnwyd i'r Cabinet awdurdodi'r diffyg o £50k o brif gronfa’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo ymrwymo i gontract ar gyfer cam adeiladu'r Rhaglen Cynnig Gofal Plant; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y diffyg o £50k ar y prosiect arfaethedig yn Ysgol Brynford yn cael ei ariannu o brif gronfa’r Cyngor.